Hawlio budd-daliadau os ydych yn byw, symud neu’n teithio dramor
Budd-daliadau ar gyfer gofalwyr a phobl ag anabledd
Mae’r hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar:
- pa fudd-dal rydych yn ei hawlio
- ble rydych yn mynd ac am faint o amser
Mynd dramor dros-dro
Gallwch hawlio’r budd-daliadau canlynol os ydych yn mynd dramor am hyd at 13 wythnos (neu 26 wythnos os ydych yn mynd am driniaeth feddygol):
Gallwch barhau i hawlio Lwfans Gofalwr os ydych yn cymryd hyd at 4 wythnos o wyliau allan mewn cyfnod o 26-wythnos.
Rhowch wybod i’r swyddfa sy’n delio gyda’ch budd-dal eich bod yn mynd i ffwrdd.
Mynd dramor i wlad AEE neu’r Swistir yn barhaol
Efallai gallwch chi neu aelod o’ch teulu hawlio budd-daliadau os ydych:
- yn gweithio yn y DU neu’n talu Yswiriant Gwladol yn y DU oherwydd gwaith
- wedi talu digon o Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys am fudd-daliadau sy’n seiliedig ar gyfraniadau
- yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol, ESA yn Seiliedig ar Gyfraniad neu fudd-daliadau Profedigaeth
- wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Os ydych yn gymwys efallai y gallwch hefyd hawlio:
- Elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
- Elfen byw bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Gweini neu Lwfans Gofalwr
Nid oes modd i chi hawlio elfen symudedd DLA ac elfen symudedd PIP dramor
Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych yn barod yn byw mewn gwlad AEE neu’r Swistir
Nid oes angen eich bod wedi hawlio yn y DU cyn i chi symud. Ond mae’n rhaid:
- eich bod yn preswylio fel arfer mewn gwlad yr AEE neu’r Swistir
- bod gennych gysylltiad gwirioneddol gyda system nawdd cymdeithasol y DU, er enghraifft rydych wedi byw neu weithio yn y DU
- eich bod wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.
Os oes gennych anabledd
Os ydych yn gymwys, gallwch hawlio’r elfen fyw ddyddiol o’r naill neu’r llall:
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Taliad Anabledd Oedolion, os oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban
Cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd os ydych ar hyn o bryd yn hawlio PIP neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion ac eisiau gwneud cais am Daliad Anabledd Oedolion yn lle.
Cysylltwch â Nawdd Cymdeithasol Yr Alban os ydych ar hyn o bryd yn hawlio Taliad Anabledd Oedolion ac eisiau gwneud cais am PIP.
Gallech hefyd gysylltu â Nawdd Cymdeithasol Yr Alban os nad ydych yn siŵr a oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban.
Os oes gennych blentyn anabl o dan 16 oed
Os yw eich plentyn yn gymwys, gallwch hawlio’r rhan elfen gofal o’r naill neu’r llall:
-
Taliad Anabledd Plant, os oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban
Os ydych yn hawlio DLA i blant ar hyn o bryd ac eisiau hawlio Taliad Anabledd Plant yn lle hynny, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.
Os ydych yn hawlio Taliad Anabledd Plant ar hyn o bryd ac eisiau hawlio DLA i blant, cysylltwch â Social Security Scotland.
Gallwch hefyd gysylltu â Social Security Scotland os nad ydych yn siŵr a oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban
Gwneud cais neu newid eich manylion
I wneud cais neu newid unrhyw fanylion personol, fel eich cyfeiriad neu’ch cyfrif banc, ysgrifennwch at y Tîm Allforiadwyedd sy’n delio gyda’r budd-dal rydych yn ei hawlio.
Os ydych yn gwneud cais, dylai eich llythyr ddweud:
- pa fudd-daliadau rydych am eu hawlio
- ble rydych chi’n byw
Tîm Allforiadwyedd Lwfans Gweini
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AD
United Kingdom
Tîm Allforiadwyedd Lwfans Byw i’r Anabl
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AD
United Kingdom
Tîm Allforiadwyedd Taliad Annibyniaeth Personol
Mail Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1AE
United Kingdom
Lwfans Gofalwr
Gallwch hawlio Lwfans Gofalwr neu rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar-lein.
Gallwch hefyd ysgrifennu at Dîm Allforiadwyedd Lwfans Gofalwr.
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AE
United Kingdom
Help a chyngor
Cysylltwch â Thîm Allforiadwyedd Budd-daliadau Anabledd am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Lwfans Gweini a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Os oes gennych ymholiad cyffredinol am Lwfans Gofalwr, cysylltwch ag Uned Lwfans Gofalwr.
Os ydych yn defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gallwch ddefnyddio gwasanaeth fideo relay. Mae ar gael Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm – Gwiriwch gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth.