Hawlio budd-daliadau os ydych yn byw, symud neu’n teithio dramor
Budd-daliadau mamolaeth a gofal plant
Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
Os ydych yn gweithio i gyflogwr DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir, gallwch gael SMP os ydych yn gymwys.
Darganfyddwch os gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol yn yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych yn gweithio mewn gwlad wahanol, gallwch gael SMP o hyd os ydy’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU ar eich cyfer.
Trafodwch hawlio SMP gyda’ch cyflogwr.
Lwfans Mamolaeth
Os na allwch gael SMP, efallai y byddwch yn gymwys am Lwfans Mamolaeth.
Os ydych yn gymwys, efallai y gallwch gael Lwfans Mamolaeth mewn gwlad AEE neu’r Swistir.
Darganfyddwch os gallwch gael Lwfans Mamolaeth yn yr AEE neu’r Swistir.
Efallai y gallwch hefyd ei hawlio yn:
- Barbados
- Bosnia a Herzegovina
- Ynysoedd y Sianel
- Gibraltar
- Israel
- Kosovo
- Macedonia
- Montenegro
- Serbia
- Twrci
Gofynnwch i’ch Canolfan Byd Gwaith am ragor o wybodaeth.
Budd-daliadau sy’n ymwneud â phlant
Efallai y gallwch hefyd gael y canlynol mewn gwlad AEE neu’r Swistir os ydych yn gymwys:
- Budd-dal Plant
- Credyd treth
- Lwfans Gwarcheidwad (gallwch hawlio hwn os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn y mae ei ddau riant wedi marw)