Lwfans Priodasol

Skip contents

Os yw’ch amgylchiadau’n newid

Mae’n rhaid i chi ganslo Lwfans Priodasol os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch perthynas yn dod i ben - oherwydd eich bod wedi ysgaru, wedi gorffen (‘diddymu’) eich partneriaeth sifil neu wedi gwahanu’n gyfreithiol

  • mae’ch incwm yn newid ac nid ydych yn gymwys mwyach

  • nid ydych am hawlio mwyach

Os bydd eich incwm yn newid ac nad ydych yn siŵr a ddylech barhau i hawlio, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Sut i ganslo

Gall y naill neu’r llall ohonoch ganslo os yw’ch perthynas wedi dod i ben.

Os ydych yn canslo am reswm arall, mae’n rhaid i’r person a wnaeth yr hawliad ganslo.

Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ni fydd eich hawliad yn cael ei ganslo os byddwch yn gadael yr adran Lwfans Priodasol yn wag. Mae’n rhaid i chi ganslo ar-lein neu dros y ffôn.

Canslo ar-lein

Gallwch ganslo Lwfans Priodasol ar-lein. Gofynnir i chi brofi pwy ydych gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ym meddiant CThEF amdanoch.

Canslo dros y ffôn

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ganslo neu gael help.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Ffôn: 0300 200 1900 
Rhif ffôn o’r tu allan i’r DU: +44 300 200 1900 
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30 i 17:00 
Dysgwch am gostau galwadau

Ar ôl i chi ganslo

Os byddwch yn canslo oherwydd newid mewn incwm, bydd y lwfans yn rhedeg hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill).

Os yw’ch perthynas wedi dod i ben, gellir ôl-ddyddio’r newid i ddechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill).

Gallai hyn olygu eich bod chi neu’ch partner yn tandalu treth am y flwyddyn.

Os yw’ch partner yn marw

Os yw’ch partner yn marw ar ôl i chi drosglwyddo rhywfaint o’ch Lwfans Personol iddo:

  • caiff ei ystâd ei drin fel pe bai ganddo’r Lwfans Personol uwch

  • bydd eich Lwfans Personol yn dychwelyd i’r swm arferol

Enghraifft

Mae’ch incwm yn £8,000 a gwnaethoch drosglwyddo £1,260 o’ch lwfans i’ch partner. Newidiodd hyn eich lwfans i £11,310 a lwfans eich partner i £13,830.

Ar ôl ei farwolaeth, bydd Lwfans Personol yr ystâd yn parhau i fod yn £13,830 a’ch un chi’n dychwelyd i £12,570.

Os trosglwyddodd eich partner rywfaint o’i Lwfans Personol i chi cyn iddo farw:

  • bydd eich Lwfans Personol yn parhau ar y lefel uwch tan ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill)

  • caiff ei ystâd ei drin fel pe bai ganddo’r swm is

Enghraifft

Trosglwyddodd eich partner £1,260 i’ch Lwfans Personol, gan newid ei lwfans i £11,310 a’ch un chi i £13,830.

Ar ôl ei farwolaeth, mae’ch Lwfans Personol yn parhau i fod yn £13,830 hyd at 5 Ebrill ac yna’n dychwelyd i’r swm arferol. Caiff ei ystâd ei drin fel pe bai ganddo Lwfans Personol o £11,310.