Lwfans Priodasol
Printable version
1. Sut mae’n gweithio
Mae’r Lwfans Priodasol yn eich galluogi i drosglwyddo £1,260 o’ch Lwfans Personol i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil.
Gall hyn ostwng treth eich gŵr, gwraig neu bartner sifil hyd at £252 yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
I elwa fel pâr, fel arfer mae’n rhaid i chi (fel yr unigolyn â’r cyflog isaf) gael incwm llai na’ch Lwfans Personol - £12,570 yw hyn fel arfer.
Gallwch gyfrifo faint o dreth y gallech ei chadw fel cwpl. Dylech ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF yn lle hynny os ydych yn cael incwm arall fel difidendau, cynilion neu fuddiannau o’ch swydd. Gallwch hefyd ffonio os nad ydych yn gwybod beth yw’ch incwm trethadwy.
Pan fyddwch yn trosglwyddo rhywfaint o’ch Lwfans Personol i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth eich hun, ond gallech ddal i dalu llai fel cwpl.
Enghraifft
Eich incwm yw £11,500 a’ch Lwfans Personol yw £12,570, felly nid ydych yn talu treth.
Incwm eich partner yw £20,000 a’i Lwfans Personol yw £12,570, felly mae’n talu treth ar £7,430 (ei ‘incwm trethadwy’). Mae hyn yn golygu fel cwpl eich bod yn talu Treth Incwm ar £7,430.
Pan fyddwch yn hawlio Lwfans Priodasol, byddwch yn trosglwyddo £1,260 o’ch Lwfans Personol i’ch partner. Mae’ch Lwfans Personol yn dod i £11,310 ac mae’ch partner yn cael ‘credyd treth’ ar £1,260 o’i incwm trethadwy.
Mae hyn yn golygu y byddwch nawr yn talu treth ar £190, ond dim ond ar £6,170 y bydd eich partner yn talu treth. Fel cwpl rydych yn elwa, gan yr ydych ond yn talu Treth Incwm ar £6,360 yn hytrach na £7,430, sy’n arbed £214 mewn treth i chi.
Pwy all wneud cais
Gallwch elwa o’r Lwfans Priodasol os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
-
rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
-
nid ydych yn talu Treth Incwm neu mae’ch incwm o dan eich Lwfans Personol (fel arfer £12,570)
-
mae’ch partner yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol, sydd fel arfer yn golygu bod incwm eich partner rhwng £12,571 a £50,270 cyn iddo gael Lwfans Priodasol
Ni allwch hawlio Lwfans Priodasol os ydych yn byw gyda’ch gilydd ond nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Os ydych yn yr Alban, mae’n rhaid i’ch partner dalu’r gyfradd gychwynnol, sylfaenol neu ganolradd, sydd fel arfer yn golygu bod ei incwm rhwng £12,571 a £43,662.
Ni fydd yn effeithio ar eich cais am Lwfans Priodasol os ydych chi neu’ch partner:
-
ar hyn o bryd yn cael pensiwn
-
yn byw dramor - cyn belled â’ch bod yn cael Lwfans Personol (yn agor tudalen Saesneg)
Os cawsoch chi neu’ch partner eich geni cyn 6 Ebrill 1935, efallai y byddwch yn elwa mwy fel cwpl drwy wneud cais am Lwfans Pâr Priod yn lle hynny.
Ni allwch gael Lwfans Priodasol a Lwfans Pâr Priod ar yr un pryd.
Ôl-ddyddio’ch hawliad
Gallwch ôl-ddyddio’ch hawliad i gynnwys unrhyw flwyddyn dreth ers 5 Ebrill 2020 pan oeddech yn gymwys i gael Lwfans Priodasol.
Bydd bil treth eich partner yn cael ei ostwng yn dibynnu ar gyfradd y Lwfans Personol am y blynyddoedd rydych yn eu hôl-ddyddio.
Os bu farw eich partner ers 5 Ebrill 2020, gallwch hawlio o hyd - ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Os mai’ch partner oedd yn ennill yr incwm isaf, y person oedd yn gyfrifol am reoli ei faterion treth ddylai ffonio.
Dod â’r Lwfans Priodasol i ben
Bydd eich Lwfans Personol yn trosglwyddo’n awtomatig i’ch partner bob blwyddyn nes i chi ganslo’r Lwfans Priodasol - er enghraifft, os bydd eich incwm yn newid neu os daw’ch perthynas i ben.
2. Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Lwfans Priodasol ar-lein. Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais.
Os nad oes gan y ddau ohonoch incwm ar wahân i’ch cyflog, yna dylai’r person sy’n ennill y lleiaf wneud yr hawliad.
Os bydd y naill neu’r llall ohonoch yn cael incwm arall, fel difidendau neu gynilion, mae’n bosibl y bydd angen i chi gyfrifo pwy ddylai hawlio. Gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os ydych yn ansicr.
Bydd newidiadau i’ch Lwfansau Personol yn cael eu hôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill) os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais:
-
drwy Hunanasesiad os ydych eisoes wedi cofrestru ac yn anfon Ffurflenni Treth
-
drwy lenwi ffurflen Lwfans Priodasol MATCF a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen
Gwneud cais drwy Hunanasesiad
Os ydych yn trosglwyddo eich Lwfans Personol i’ch partner, llenwch adran Lwfans Priodasol eich Ffurflen Dreth. Os mai chi sy’n cael y lwfans gan eich partner, gadewch adran Lwfans Priodasol eich Ffurflen Dreth yn wag.
Os yw’r ddau ohonoch yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dylai’r person sy’n trosglwyddo’r lwfans gyflwyno’i Ffurflen Dreth Hunanasesiad o leiaf 3 diwrnod cyn i’r person gael y lwfans.
Nid oes angen i chi lenwi adran Lwfans Priodasol eich Ffurflen Dreth os yw’ch cod treth yn gorffen â ‘N’ neu ‘M’. Bydd eich lwfans yn trosglwyddo’n awtomatig i’ch partner bob blwyddyn nes i chi ganslo’r Lwfans Priodasol.
Sut mae eich Lwfansau Personol yn newid
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi’r lwfans rydych wedi’i drosglwyddo i’ch partner naill ai:
-
drwy newid ei god treth - gall hyn gymryd hyd at 2 fis
-
pan fydd yn anfon ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Os yw’ch Lwfans Personol newydd yn is na’ch incwm ar ôl i chi wneud hawliad, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o dreth incwm. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn dal i elwa fel cwpl.
Sut bydd eich cod treth yn newid
Byddwch chi a’ch partner yn cael codau treth newydd sy’n adlewyrchu’r lwfans a drosglwyddwyd. Bydd eich cod treth yn gorffen â’r canlynol:
-
‘M’ os ydych yn cael y lwfans
-
‘N’ os ydych yn trosglwyddo’r lwfans
Bydd eich cod treth hefyd yn newid os ydych yn gyflogedig neu’n cael pensiwn.
3. Os yw’ch amgylchiadau’n newid
Mae’n rhaid i chi ganslo Lwfans Priodasol os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae’ch perthynas yn dod i ben - oherwydd eich bod wedi ysgaru, wedi gorffen (‘diddymu’) eich partneriaeth sifil neu wedi gwahanu’n gyfreithiol
-
mae’ch incwm yn newid ac nid ydych yn gymwys mwyach
-
nid ydych am hawlio mwyach
Os bydd eich incwm yn newid ac nad ydych yn siŵr a ddylech barhau i hawlio, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Sut i ganslo
Gall y naill neu’r llall ohonoch ganslo os yw’ch perthynas wedi dod i ben.
Os ydych yn canslo am reswm arall, mae’n rhaid i’r person a wnaeth yr hawliad ganslo.
Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ni fydd eich hawliad yn cael ei ganslo os byddwch yn gadael yr adran Lwfans Priodasol yn wag. Mae’n rhaid i chi ganslo ar-lein neu dros y ffôn.
Canslo ar-lein
Gallwch ganslo Lwfans Priodasol ar-lein. Gofynnir i chi brofi pwy ydych gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ym meddiant CThEF amdanoch.
Canslo dros y ffôn
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ganslo neu gael help.
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Ffôn: 0300 200 1900
Rhif ffôn o’r tu allan i’r DU: +44 300 200 1900
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30 i 17:00
Dysgwch am gostau galwadau
Ar ôl i chi ganslo
Os byddwch yn canslo oherwydd newid mewn incwm, bydd y lwfans yn rhedeg hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill).
Os yw’ch perthynas wedi dod i ben, gellir ôl-ddyddio’r newid i ddechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill).
Gallai hyn olygu eich bod chi neu’ch partner yn tandalu treth am y flwyddyn.
Os yw’ch partner yn marw
Os yw’ch partner yn marw ar ôl i chi drosglwyddo rhywfaint o’ch Lwfans Personol iddo:
-
caiff ei ystâd ei drin fel pe bai ganddo’r Lwfans Personol uwch
-
bydd eich Lwfans Personol yn dychwelyd i’r swm arferol
Enghraifft
Mae’ch incwm yn £8,000 a gwnaethoch drosglwyddo £1,260 o’ch lwfans i’ch partner. Newidiodd hyn eich lwfans i £11,310 a lwfans eich partner i £13,830.
Ar ôl ei farwolaeth, bydd Lwfans Personol yr ystâd yn parhau i fod yn £13,830 a’ch un chi’n dychwelyd i £12,570.
Os trosglwyddodd eich partner rywfaint o’i Lwfans Personol i chi cyn iddo farw:
-
bydd eich Lwfans Personol yn parhau ar y lefel uwch tan ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill)
-
caiff ei ystâd ei drin fel pe bai ganddo’r swm is
Enghraifft
Trosglwyddodd eich partner £1,260 i’ch Lwfans Personol, gan newid ei lwfans i £11,310 a’ch un chi i £13,830.
Ar ôl ei farwolaeth, mae’ch Lwfans Personol yn parhau i fod yn £13,830 hyd at 5 Ebrill ac yna’n dychwelyd i’r swm arferol. Caiff ei ystâd ei drin fel pe bai ganddo Lwfans Personol o £11,310.