Lwfans Priodasol

Skip contents

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Lwfans Priodasol ar-lein. Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais.

Os nad oes gan y ddau ohonoch incwm ar wahân i’ch cyflog, yna dylai’r person sy’n ennill y lleiaf wneud yr hawliad. 

Os bydd y naill neu’r llall ohonoch yn cael incwm arall, fel difidendau neu gynilion, mae’n bosibl y bydd angen i chi gyfrifo pwy ddylai hawlio. Gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os ydych yn ansicr.

Bydd newidiadau i’ch Lwfansau Personol yn cael eu hôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill) os bydd eich cais yn llwyddiannus.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais:

Gwneud cais drwy Hunanasesiad

Os ydych yn trosglwyddo eich Lwfans Personol i’ch partner, llenwch adran Lwfans Priodasol eich Ffurflen Dreth. Os mai chi sy’n cael y lwfans gan eich partner, gadewch adran Lwfans Priodasol eich Ffurflen Dreth yn wag.

Os yw’r ddau ohonoch yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dylai’r person sy’n trosglwyddo’r lwfans gyflwyno’i Ffurflen Dreth Hunanasesiad o leiaf 3 diwrnod cyn i’r person gael y lwfans.

Nid oes angen i chi lenwi adran Lwfans Priodasol eich Ffurflen Dreth os yw’ch cod treth yn gorffen â ‘N’ neu ‘M’. Bydd eich lwfans yn trosglwyddo’n awtomatig i’ch partner bob blwyddyn nes i chi ganslo’r Lwfans Priodasol.

Sut mae eich Lwfansau Personol yn newid

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi’r lwfans rydych wedi’i drosglwyddo i’ch partner naill ai:

  • drwy newid ei god treth - gall hyn gymryd hyd at 2 fis

  • pan fydd yn anfon ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os yw’ch Lwfans Personol newydd yn is na’ch incwm ar ôl i chi wneud hawliad, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o dreth incwm. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn dal i elwa fel cwpl.

Sut bydd eich cod treth yn newid

Byddwch chi a’ch partner yn cael codau treth newydd sy’n adlewyrchu’r lwfans a drosglwyddwyd. Bydd eich cod treth yn gorffen â’r canlynol:

  • ‘M’ os ydych yn cael y lwfans

  • ‘N’ os ydych yn trosglwyddo’r lwfans

Bydd eich cod treth hefyd yn newid os ydych yn gyflogedig neu’n cael pensiwn.