Lwfans Rhiant Gweddw
Beth fyddwch yn ei gael
Bydd y swm a gewch yn seiliedig ar faint a dalodd eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Uchafswm Lwfans Rhiant Gweddw (WPA) yw £148.40 yr wythnos.
Os bu farw eich gŵr, gwraig neu barner sifil o ganlyniad i ddamwain diwydiannol neu afiechyd, efallai gallwch hawlio WPA hyd yn oed os nad oeddent wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Byddwch yn parhau i gael WPA hyd nes eich bod:
- bellach ddim yn gymwys i Fudd-dal Plant
- yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Sut mae WPA yn cael ei dalu
Fel arfer, mae WPA yn cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Effaith ar fudd-daliadau eraill
Gall taliadau budd-dal eraill a gewch newid pan fyddwch yn dechrau hawlio WPA.
Unwaith y byddwch yn cael WPA, rhaid i chi roi gwybod os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Lwfans Gofalwr
- Taliad Cymorth Gofalwr
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Credyd Cynhwysol
Os nad ydych yn rhoi gwybod am eich newid ar unwaith,efallai y cewch y swm anghywir a bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy hefyd.
Y cap ar fudd-daliadau
Mae’r cap ar fudd-daliadau yn rhoi terfyn ar y cyfanswm o fudd-dal y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu hŷn sydd heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Nid yw rhai budd-daliadau unigol yn cael eu heffeithio, ond fe allai effeithio ar gyfanswm y budd-dal a gewch.