Newid eich cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW)

Sgipio cynnwys

Newid eich enw a chyfeiriad ar yr un pryd

Mae’n rhaid ichi ddiweddaru eich llyfr log cerbyd (V5CW) os ydych yn newid eich enw neu gyfeiriad. Fel arfer mae’n rhad ac am ddim i’w ddiweddaru.

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA pan fydd eich enw neu gyfeiriad yn newid.

Os ydych am newid eich enw a chyfeiriad ar yr un pryd, gallwch dim ond wneud hwn drwy’r post.

Mae angen ichi lenwi’r adrannau perthnasol o’r llyfr log a’i anfon i DVLA.

Bydd angen ichi ddiweddaru eich manylion mewn ffordd wahanol os:

Beth i’w wneud gyda’ch llyfr log

Pan rydych yn llenwi eich llyfr log a’i anfon, sicrhewch:

  • fod dim ond enw un unigolyn sydd arno
  • eich bod chi’n cynnwys prawf o’ch newid enw, er enghraifft tystysgrif briodas neu weithred newid enw

Os mai busnes yw’r ceidwad cofrestredig, mae’n rhaid ichi gynnwys prawf o’i newid enw (fel tystysgrif gorfforiad gan Dŷ’r Cwmnïau).

Ar gyfer llyfrau log steil newydd gyda blychau aml-lyw wedi’u rhifo ar y blaen

I newid eich enw a chyfeiriad os oes gennych y llyfr log steil newydd, mae angen ichi:

  • ysgrifennu’r enw a chyfeiriad newydd yn llawn yn adran 3 - peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
  • anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 3
  • cynnwys prawf os ydych wedi newid eich enw, er enghraifft tystysgrif briodas neu weithred newid enw

Ar gyfer llyfrau log steil hen

Os oes gennych y llyfr log steil hŷn heb y blychau aml-lyw wedi’u rhifo ar y blaen, mae angen ichi:

  • ysgrifennu’r enw a chyfeiriad newydd yn llawn yn adran 6 – peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
  • llofnodi ac anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 8
  • cynnwys prawf os ydych wedi newid eich enw, er enghraifft tystysgrif briodas neu weithred newid enw

Peidiwch â thicio’r blwch ‘ceidwad newydd’ na chwblhau eich enw ar y ffurflen steil hŷn.

Os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf

Gallwch naill ai:

  • drethu eich cerbyd ar-lein cyn anfon eich llyfr log i DVLA
  • cymryd eich llyfr log i Swydda’r Post sy’n delio â threth cerbyd, i newid eich manylion a threthu eich cerbyd yr un amser

Cymerwch eich tystysgrif brawf MOT ddiweddaraf os oes angen i’ch cerbyd gael MOT bob blwyddyn. Mae’n rhaid i’r dystysgrif fod yn ddilys pan fydd y dreth cerbyd yn dechrau.

Diweddaru eich trwydded yrru a threth cerbyd

Mae’n rhaid ichi hefyd newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru a Debyd Uniongyrchol am dreth cerbyd (os ydych yn talu yn y modd hwn).

Symud y tu allan i’r DU

Os ydych yn cymryd eich cerbyd, ewch â’r llyfr log a chofrestru’r cerbyd yn y wlad rydych yn symud iddi.

Os oes gennych ôl-gerbyd, efallai y bydd angen ichi ei gofrestru i’w gymryd dramor.

Os ydych wedi colli eich llyfr log ac mae arnoch angen newid eich enw a chyfeiriad

  1. Lawrlwytho a llenwi cais am lyfr log (V62W).

  2. Anfon i DVLA gyda siec neu archeb bost am £25 yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe. Ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi na’u newid.

DVLA

Abertawe

SA99 1DD

Mae’n rhaid bod gennych gyfeiriad y DU i wneud cais am lyfr log amnewid. Os ydych yn symud dramor, gwnewch gais cyn ichi gymryd eich cerbyd y tu allan i’r DU.

Os nad yw eich llyfr log newydd yn cyrraedd

Cysylltwch â DVLA os nad yw’r llyfr log newydd wedi cyrraedd ar ôl 6 wythnos.