Gwerthu neu roi rhif preifat i rywun arall

Gallwch werthu neu roi rhif preifat (personol) i rywun. Rhaid i’r rhif gael ei aseinio i’w gerbyd cyn y gellir ei ddefnyddio.

Os ydych yn rhoi rhif preifat i rywun dilynwch y camau ar gyfer aseinio eich rhif preifat i rywun arall.

Gwerthu eich rhif preifat

Gallwch ddefnyddio deliwr rhifau preifat neu werthu’r rhif eich hun.

Peidiwch â rhannu ffotograff neu sgan o’r ddogfen V750W neu V778W.  Gallai rhywun heblaw’r prynwr ei ddefnyddio i roi’r rhif preifat ar gerbyd arall.

Defnyddio deliwr rhifau preifat

Bydd y rhan fwyaf o werthwyr yn dod o hyd i brynwr, yn trefnu’r taliad ac yn trosglwyddo’r rhif i gerbyd y prynwr ar eich rhan.

Gwerthu eich rhif preifat eich hun

Ar ôl ichi ddod o hyd i brynwr, bydd angen ichi aseinio eich rhif i’w gerbyd. Dilynwch y camau ar gyfer aseinio eich rhif preifat i rywun arall.

Aseinio eich rhif preifat i rywun arall

Gallwch roi eich rhif preifat ar gerbyd rhywun arall ar-lein neu drwy’r post.

Ar ôl hynny, bydd DVLA yn anfon llyfr log newydd am y cerbyd ond gyda’r rhif preifat newydd wedi’i aseinio iddo.

Ar-lein

Bydd arnoch angen manylion o’r canlynol:

  • llyfr log (V5CW) y cerbyd rydych yn aseinio’r rhif iddo

  • eich V778W neu V750W

Fel arfer, bydd y rhif yn cael ei aseinio ar unwaith.

Aseinio rhif ar-lein

Mae’r gwasanaeth hwn ar agor o 7am i 7pm. Mae hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Drwy’r post

Anfonwch y canlynol i DVLA:

  • eich ffurflen V778W neu V750W - llenwch adrannau 1 a 2 a’i llofnodi yn gyntaf

  • llyfr log (V5CW) am y cerbyd rydych am roi’r rhif preifat arno

Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os bydd yr enwebai yn marw

Gall yr unigolyn sydd â’r hawl i ddefnyddio’r rhif preifat newid yr ‘enwebai’ (yr unigolyn rydych yn rhoi’r rhif iddo). Llenwch adran 2 o’r V750W neu V778W gyda manylion yr enwebai newydd, llofnodwch y ffurflen a’i hanfon i:

Rhifau Cofrestru Personol DVLA      
Abertawe 
SA99 1DS