Os yw'r person gyda'r hawl i ddefnyddio'r rhif preifat yn marw

Os yw rhywun wedi marw a gadael rhif personol ichi yn ei ewyllys, neu os ydych yn gyfrifol am yr ewyllys (‘ysgutor’), gallwch:

  • gadw’r rhif preifat

  • ei drosglwyddo i gerbyd arall

  • ei roi mewn enw rhywun arall

  • ildio’r hawl i ddefnyddio’r rhif (gallwch wneud cais am ad-daliad)

I wneud hyn, bydd angen ichi anfon ffurflen i DVLA, ynghyd â dogfennau sy’n profi bod gennych hawl i ddefnyddio’r rhif.

Profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif

Rhaid ichi anfon y dystysgrif marwolaeth i DVLA pan fyddwch yn anfon eich ffurflen. Gall y dystysgrif marwolaeth fod yn wreiddiol neu’n gopi ardystiedig.

Rhaid ichi anfon o leiaf un o’r canlynol hefyd:

  • copi ardystiedig o brofiant

  • copi o’r ewyllys

  • llythyr gan y cyfreithiwr yn cadarnhau pwy yw’r ysgutorion neu’r berthynas agosaf

Cadw neu drosglwyddo’r rhif, neu ei roi i rywun arall

Mae pa ffurflen a anfonwch yn dibynnu ar a yw’r rhif eisoes ar (‘wedi’i aseinio i’) gerbyd.

Os yw’r rhif eisoes wedi’i aseinio i gerbyd

Llenwch y canlynol:

  • y ffurflen V317W (os oes gennych hen ffurflen las, llenwch adran 2)

  • adran 2 os oes gennych llyfr log steil newydd (gyda blociau wedi’u rhifo amryliw ar y blaen) neu adran 6 os oes gennych y llyfr log steil hen

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys:

  • llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn cadarnhau eu bod yn cytuno â’r cais

  • manylion yr unigolyn rydych am drosglwyddo’r rhif iddo, er enghraifft ysgutor neu berthynas agosaf

Mae’n costio £80.

Rhifau Cofrestru Personol DVLA 
Abertawe
SA99 1DS

Os nad yw’r rhif wedi’i aseinio i gerbyd

Anfonwch y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif ac un o’r canlynol:

  • y ddogfen gadw rhifau V778W

  • y ffurflen tystysgrif hawl V750W

Rhaid i’r ysgutorion lofnodi’r V778W neu V750W cyn ichi ei hanfon.

Rhaid ichi hefyd anfon llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn dweud a ydych chi eisiau:

  • cadw’r rhif

  • rhoi’r rhif i rywun arall

Rhifau Cofrestru Personol DVLA 
Abertawe
SA99 1DS

Os nad oes gennych y V778W neu’r V750W

Anfonwch y canlynol i DVLA:

  • y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif

  • llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn cadarnhau nad oes gennych y ffurflenni, ac yn esbonio beth rydych am ei wneud gyda’r rhif

Ildio eich hawl i ddefnyddio’r rhif preifat

Efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad o’r ffi aseinio o £80 os:

  • nad oedd rhif preifat wedi’i aseinio i gerbyd ar ôl talu’r ffi

  • oes gennych y ddogfen V778W neu V750W ddiweddaraf - os ydych wedi’i cholli a’i bod yn dal yn ddilys gallwch gael un amnewid gan DVLA

Gwiriwch y ddogfen V778W neu V750W i weld a oedd ffi wedi’i thalu.

Os cyhoeddwyd y ddogfen cyn 9 Mawrth 2015, dim ond ar ôl iddi ddod i ben y gallwch gael ad-daliad. Ni allwch gael dogfen newydd os yw wedi dod i ben.

Anfonwch y canlynol i DVLA:

  • y ddogfen V778W neu V750W - ticiwch yr adran ‘Ad-daliad o’r ffi aseinio’ a chael yr holl ysgutorion i’w llofnodi

  • y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif

  • enw a chyfeiriad yr unigolyn y bydd yr ad-daliad yn cael ei gyhoeddi iddo

Rhifau Cofrestru Personol DVLA
Abertawe
SA99 1DS

Os nad oes gennych y V778W neu’r V750W

Anfonwch y canlynol i DVLA:

  • y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif

  • llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn cadarnhau nad oes gennych y ffurflenni, ac yn esbonio beth rydych am ei wneud gyda’r rhif