Trosolwg

Gallwch brynu rhif cofrestru preifat (personol) ar gyfer platiau rhif eich cerbyd gan DVLA neu ddeliwr preifat.

Os oes gennych hawl i rif preifat nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, gallwch wneud cais i’w aseinio i gerbyd (ei roi ar gerbyd).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cymryd rhif cofrestru preifat oddi ar gerbyd (‘cadw’)

Os nad ydych am ddefnyddio’r rhif preifat bellach gallwch wneud cais i’w gymryd oddi ar eich cerbyd. Gallwch gadw’r rhif i’w ddefnyddio yn ddiweddarach.

Byddwch yn cael dogfen gadw rhifau V778W sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif o hyd.

Gwerthu rhif preifat 

Gallwch hefyd werthu eich rhif preifat os nad ydych am ei ddefnyddio bellach.

Os ydych yn gwerthu eich rhif preifat ar-lein, peidiwch â rhannu sgan na llun o’r ddogfen V750W neu V778W. Gallai rhywun heblaw’r prynwr ei ddefnyddio i roi’r rhif preifat ar gerbyd arall. 

Trosglwyddo rhif preifat

I drosglwyddo rhif preifat o un cerbyd i’r llall, bydd angen ichi wneud y canlynol:

  1. Cymryd ef oddi ar y cerbyd rydych yn ei drosglwyddo oddi wrtho.

  2. Aseinio ef i’r cerbyd rydych yn ei drosglwyddo iddo.

Gallwch hefyd wneud hyn drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen V317W.