Prynu rhif preifat

Prynu gan DVLA

Gallwch brynu rhifau cofrestru newydd gan Rhifau Cofrestru Personol DVLA

Prynu yn ocsiynau DVLA

Mae DVLA yn cynnal 9 ocsiwn y flwyddyn. Maent yn cael eu cynnal ar-lein ac yn rhedeg am 7 diwrnod.  

Ewch i DVLA auctions i:

  • wirio dyddiadau’r ocsiynau sydd i ddod

  • cofrestru fel cynigiwr

  • gweld pa blatiau sydd ar werth

Byddwch yn cael tystysgrif hawl V750W unwaith y byddwch wedi talu am y rhif preifat (personol). Mae hyn i brofi bod gennych hawl i roi’r rhif ar gerbyd.

Prynu gan ddeliwr preifat neu berson

Gallwch brynu rhif preifat gan ddeliwr neu gan berson arall.

Bydd y rhan fwyaf o ddelwyr yn trosglwyddo’r rhif i’ch cerbyd ar eich rhan. Os ydych chi eisiau cadw neu aseinio’r rhif eich hun, gofynnwch i’r deliwr a allwch chi gael y V750W neu’r V778W.