Pryd allwch chi ddirymu priodas

Mae dirymiad (a elwir weithiau’n ‘dirymu’) yn ffordd wahanol o ddod â phriodas i ben.

Yn wahanol i ysgariad, gallwch wneud cais am ddirymiad ym mlwyddyn gyntaf eich priodas neu unrhyw bryd ar ôl hynny. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud cais flynyddoedd ar ôl y briodas, efallai y gofynnir i chi esbonio’r rheswm dros yr oedi.

Bydd angen i chi ddangos:

  • nad yw’r briodas erioed wedi bod yn gyfreithiol ddilys (‘ddi-rym’)
  • bod y briodas yn gyfreithiol ddilys, ond ei bod yn bodloni un o’r rhesymau sy’n ei gwneud yn ‘ddi-rym’

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nid yw eich priodas yn gyfreithiol ddilys - priodasau ‘di-rym’

Gallwch ddirymu priodas os nad oedd yn gyfreithiol ddilys yn y lle cyntaf, er enghraifft:

  • rydych chi’n perthyn yn agos i’r sawl rydych chi’n briod ag ef/â hi
  • os oedd un neu’r ddau ohonoch o dan 18 oed (neu o dan 16 oed os digwyddodd y briodas cyn 27 Chwefror 2023)
  • roedd un ohonoch eisoes wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil

Os nad oedd y briodas erioed yn gyfreithiol ddilys, mae’r gyfraith yn dweud nad oedd erioed wedi bodoli.

Fodd bynnag, efallai y bydd angen gwaith papur cyfreithiol arnoch (‘dyfarniad dirymu’ neu ‘gorchymyn dirymu priodas’) i brofi hyn - er enghraifft os ydych chi am briodi eto.

Mae modd dirymu eich priodas

Gallwch ddirymu priodas am nifer o resymau, megis:

  • ni chafodd ei chyflawni - nid ydych wedi cael cyfathrach rywiol â’r sawl y gwnaethoch briodi ers y briodas (nid yw’n berthnasol ar gyfer cyplau o’r un rhyw)
  • ni wnaethoch gydsynio’n iawn i’r briodas - er enghraifft, cawsoch eich gorfodi
  • roedd gan yr unigolyn arall glefyd a drosglwyddir yn rhywiol (STD) pan wnaethoch briodi
  • roedd eich priod yn feichiog gan rywun arall pan wnaethoch briodi
  • mae un ohonoch wrthi’n trosglwyddo i rywedd wahanol

Fel gydag ysgariad, mae eich priodas yn bodoli’n gyfreithiol nes i chi ei dirymu gan ddefnyddio un o’r rhesymau hyn.

Mae’r rheolau ar ddod â phartneriaeth sifil i ben ychydig yn wahanol, ond mae ffurflenni’r llys yr un fath.