Dirymu priodas
Gwneud cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi
Rhaid i’r unigolyn arall ymateb i’ch cais am ddirymiad o fewn 14 diwrnod, gan ddweud a yw’n cytuno y dylid dirymu’r briodas.
Unwaith y byddant yn ymateb, gallwch wneud cais am orchymyn amodol (neu ‘ddyfarniad nisi’ os yw’r dyddiad ar eich hysbysiad llys cyn 6 Ebrill 2022). Bydd hyn yn cadarnhau nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pam na ellir dirymu’r briodas.
Sut i wneud cais
Mae sut rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022
I gael dyfarniad nisi, llenwch y cais am ddyfarniad nisi.
Rhaid i chi hefyd lenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a wnaethoch ei ddweud yn eich cais am ddirymiad yn wir.
Defnyddiwch un o’r ffurflenni isod, yn dibynnu p’un a yw eich priodas ‘wedi’i dirymu’ neu ‘gellir ei dirymu’:
Gweler pryd y gallwch chi ddirymu priodas am y gwahaniaeth rhwng priodas ‘ddi-rym’ a phriodas ddirymadwy’.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
I gael gorchymyn amodol, llenwch y cais am orchymyn amodol.