Dirymu priodas
Gwneud cais am ddirymiad
Gallwch wneud cais i ddirymu eich priodas cyn gynted ag y byddwch yn priodi. Yn wahanol i ysgariad, nid oes rhaid i chi aros am flwyddyn.
I ddirymu priodas, llenwch ffurflen gais dirymu.
Anfonwch ddau gopi o’r ffurflen i:
Bury St Edmunds Regional Divorce Unit
Triton House
St Andrew’s Street North
Bury St Edmunds
IP33 1TR
Cadwch gopi eich hun hefyd.
Mae ffeilio ffurflen gais dirymiad yn costio £593.
Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Ar ôl i chi wneud cais, bydd y llys yn anfon hysbysiad atoch bod eich cais wedi’i gychwyn.