Dirymu priodas
Gwneud cais am orchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt
6 wythnos ar ôl i chi gael y gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi gallwch wneud cais am naill ai:
- ddyfarniad absoliwt - os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022
- gorchymyn terfynol - os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
Dyma’r ddogfen gyfreithiol derfynol sy’n dweud bod y briodas wedi’i dirymu.
Sut i wneud cais
Mae sut rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022
Llenwch yr hysbysiad o gais ar gyfer troi dyfarniad nisi yn ddyfarniad absoliwt.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
Llenwch y ffurflen gais am orchymyn terfynol.
Pan fyddwch yn dychwelyd eich ffurflenni
Bydd y llys yn gwirio a oes unrhyw reswm pam na ellir dirymu’r briodas. Mewn rhan fwyaf o achosion, nid oes angen i chi fynd i’r llys ar gyfer hyn.
Os yw’r llys yn hapus, bydd yn anfon ‘dyfarniad dirymiad’ neu ‘orchymyn dirymu priodas’ atoch. Bydd hyn yn cadarnhau nad ydych yn briod mwyach.
Os nad oedd eich priodas erioed yn gyfreithiol ddilys (‘wedi’i dirymu’), bydd y dyfarniad neu’r gorchymyn yn cadarnhau nad oeddech erioed wedi priodi’n gyfreithiol.