Tâl ac absenoldeb mabwysiadu
Absenoldeb
Mae Absenoldeb Mabwysiadu Statudol yn 52 wythnos. Mae’n cynnwys y canlynol:
- 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Cyffredin
- 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol
Dim ond 1 person mewn cwpl all gymryd absenoldeb mabwysiadu. Gallai’r partner arall gael absenoldeb tadolaeth yn lle hynny.
Os cewch absenoldeb mabwysiadu, gallwch hefyd gael amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl i fynychu 5 apwyntiad mabwysiadu ar ôl i chi gael eich paru â phlentyn.
Defnyddio’r cynllunydd i weithio allan y dyddiadau ar gyfer eich absenoldeb mabwysiadu.
Dyddiad dechrau
Gall absenoldeb mabwysiadu ddechrau:
- hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad y mae’r plentyn yn dechrau byw gyda chi (mabwysiadu yn y DU)
- pan fydd y plentyn yn cyrraedd y DU neu o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad hwn (mabwysiadu tramor)
- y diwrnod y mae’r plentyn wedi’i eni neu’r diwrnod wedyn (os ydych wedi defnyddio mam fenthyg i gael plentyn)
Newid eich dyddiad
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr o fewn 28 diwrnod os bydd dyddiad y lleoliad (neu ddyddiad cyrraedd y DU ar gyfer mabwysiadu dramor) yn newid.
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dychwelyd i’r gwaith.