TWE a’r gyflogres i gyflogwyr

Sgipio cynnwys

Sefydlu cyflogres

Os ydych yn penderfynu rhedeg y gyflogres eich hun, bydd angen i chi gyflawni tasgau penodol er mwyn talu’ch cyflogeion am y tro cyntaf. Gallwch ddewis pryd i dalu’ch cyflogeion a pha mor aml yr ydych am wneud hynny.

  1. Cofrestru fel cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) a chael manylion mewngofnodi ar gyfer TWE ar-lein.

  2. Dewis meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cofnodi manylion am y cyflogai, cyfrifo cyflog a didyniadau, ac adrodd i CThEF.

  3. Cadw a chasglu cofnodion.

  4. Rhoi gwybod i CThEF am eich cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg).

  5. Cofnodi cyflogau, gwneud didyniadau ac adrodd i CThEF (yn agor tudalen Saesneg) ar neu cyn y diwrnod cyflog cyntaf.

  6. Talu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) – bydd angen i chi dalu’r dreth a’r Yswiriant Gwladol sydd arnoch.

Bydd hefyd angen i chi gwblhau adroddiadau a thasgau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) penodol i baratoi ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf, sy’n dechrau ar 6 Ebrill.