TWE a’r gyflogres i gyflogwyr
Cyflwyniad i TWE
Fel arfer, fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi weithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres. TWE yw system Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o gyflogaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pryd mae’n rhaid i chi gofrestru
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TWE os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i unrhyw un o’ch cyflogeion yn ystod y flwyddyn dreth bresennol (ers 6 Ebrill):
- telir £123 neu fwy iddo bob wythnos
- mae’n cael treuliau a buddiannau cwmni
- mae’n cael pensiwn
- roedd ganddo swydd arall
- mae wedi cael Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-daliadau Analluogrwydd
Os nad oes angen i chi gofrestru, mae angen i chi gadw cofnodion cyflogres.
Taliadau a didyniadau
Pan fyddwch yn talu eich cyflogeion drwy’r gyflogres, mae hefyd angen i chi wneud didyniadau ar gyfer TWE.
Taliadau i’ch cyflogeion
Mae taliadau i’ch cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys eu salari neu gyflog, ynghyd â phethau fel cildyrnau neu fonysau, neu dâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol.
Didyniadau o’u cyflog net
Bydd angen i chi ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) o’r taliadau hyn ar gyfer y mwyafrif o’ch cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud didyniadau eraill megis ad-daliadau benthyciad myfyriwr neu gyfraniadau pensiwn.
Gwneud adroddiadau i CThEF a thalu
Rhoi gwybod am gyflog a didyniadau
Os ydych yn rhedeg cyflogres eich hun, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am daliadau a didyniadau eich cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) ar neu cyn pob diwrnod cyflog.
Bydd eich meddalwedd gyflogres yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol sydd arnoch, gan gynnwys cyfraniad Yswiriant Gwladol ar enillion pob cyflogai sydd dros £175 yr wythnos.
Bydd angen i chi anfon adroddiad arall er mwyn hawlio unrhywostyngiadau (yn agor tudalen Saesneg) ar yr hyn sydd arnoch i CThEF, er enghraifft tâl statudol.
Talu CThEF
Bydd modd i chi fwrw golwg dros yr hyn sydd arnoch i CThEF yn seiliedig ar eich adroddiadau. Yna, bydd angen i chi dalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) bob mis, fel arfer.
Os ydych yn gyflogwr bach sy’n disgwyl talu llai na £1,500 bob mis, gallwch drefnu i dalu’n chwarterol – cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Pethau eraill sydd angen i chi roi gwybod i CThEF amdanynt
Fel rhan o’ch adroddiadau rheolaidd, dylech roi gwybod y canlynol i CThEF:
- pan fydd cyflogai newydd yn ymuno (yn agor tudalen Saesneg)
- os bydd amgylchiadau’r cyflogai’n newid (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft, mae’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n dod yn gyfarwyddwr
Mae’n rhaid i chi gynhyrchu adroddiadau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) ar ddiwedd pob blwyddyn dreth – gan gynnwys rhoi gwybod i CThEF ynghylch unrhyw dreuliau a buddiannau.
Dewis sut i redeg cyflogres
Os oes rhaid i chi weithredu TWE, gallwch ddewis sut i redeg eich cyflogres.