Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Trosolwg
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) pan fyddwch yn croesawu cyflogai newydd a chael eich cofrestru fel cyflogwr.
Mae’r tudalen hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi dalu’ch cyflogai sydd newydd gychwyn, dilynwch y camau hyn.
-
Dysgwch beth yw gwybodaeth y cyflogai er mwyn cyfrifo’i god treth - os nad oes gennych ei P45, defnyddiwch y ‘rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn’ gan CThEF (sydd wedi cymryd lle’r P46).
-
Darganfyddwch a oes angen iddo ad-dalu benthyciad myfyriwr.
-
Defnyddiwch y manylion hyn i osod eich cyflogai newydd ar eich meddalwedd gyflogres.
-
Cofrestrwch eich cyflogai gyda CThEF gan ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).
Mae’n rhaid i chi hefyd ddilyn yr un camau ag yr oeddech wedi’u dilyn pan ddechreuoch chi gyflogi staff am y tro cyntaf, er enghraifft gwirio y gall y cyflogai weithio yn y DU.