Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Cael gwybodaeth am y cyflogai
Bydd angen i chi gael gwybodaeth benodol gen eich cyflogai fel y gallwch sefydlu’r cod treth cywir a’r datganiad cyflogai newydd sy’n cychwyn ar ei gyfer, ar eich meddalwedd gyflogres.
Fel arfer, byddwch yn cael y rhan fwyaf o’r wybodaeth hon o P45 eich cyflogai, ond bydd angen iddo lenwi ‘rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn’ (sydd wedi cymryd lle ffurflen P46) os nad oes ganddo P45 diweddar.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
- dyddiad geni’r cyflogai
- rhywedd y cyflogai
- cyfeiriad llawn y cyflogai
- dyddiad dechrau’r cyflogai
Bydd angen y manylion canlynol arnoch o P45 y cyflogai:
- enw llawn y cyflogai
- dyddiad y gadawodd y cyflogai ei swydd ddiwethaf
- cyfanswm y cyflog a’r dreth a dalwyd hyd yn hyn ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
- statws y cyflogai o ran didyniadau benthyciad myfyriwr
- rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai
- cod treth presennol y cyflogai
Mae’n rhaid i chi gadw’r wybodaeth hon yn eich cofnodion cyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 3 blwyddyn dreth sy’n dilyn.
Os nad oes gan eich cyflogai P45
Gofynnwch i’ch cyflogai am yr wybodaeth hon os nad oes ganddo P45 neu os gwnaeth y cyflogai adael ei swydd ddiwethaf cyn 6 Ebrill 2023.
Nid yw’r P46 yn cael ei defnyddio mwyach.
Dysgwch beth yw’r wybodaeth drwy ofyn i’ch cyflogai newydd am lenwi rhestr wirio CThEF ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn.
Os oes gan eich cyflogai fwy nag un P45
Dylech ddefnyddio’r P45 gyda’r dyddiad diweddaraf a rhoi’r llall yn ôl i’r cyflogai.
Os oes gan y ddwy ffurflen yr un dyddiad gadael, defnyddiwch y P45 gyda’r lwfans rhydd o dreth uchaf (neu’r lleiaf o dâl ychwanegol ar gyfer cod K) a rhoi’r llall yn ôl i’r cyflogai.
Cyfrifo cod treth eich cyflogai
Pan fydd gennych yr wybodaeth am eich cyflogai, gallwch ddefnyddio offeryn er mwyn:
-
cyfrifo’i god treth a’i ddatganiad ar gyfer cyflogeion newydd sy’n cychwyn
-
dysgu beth arall i’w wneud cyn talu’ch cyflogai am y tro cyntaf
Cyfrifo cod treth eich cyflogai
Cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig a secondiadau o dramor
Mae yna ffordd wahanol i gyfrifo codau treth ar gyfer cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig neu sydd wedi’u secondio o dramor (yn agor tudalen Saesneg).