Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Cofrestru’ch cyflogai newydd
Cofrestru’ch cyflogai newydd gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) drwy gynnwys ei fanylion ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS) pan fyddwch yn ei dalu am y tro cyntaf.
Ar yr FPS hwn, dylech gynnwys y canlynol:
-
y cod treth a’r datganiad ar gyfer cyflogeion newydd sy’n cychwyn (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi’i gyfrifo
-
cyflog a didyniadau (er enghraifft, treth, Yswiriant Gwladol a didyniadau benthyciad myfyriwr) ers iddo ddechrau gweithio i chi - peidiwch â chynnwys ffigurau o’i swydd flaenorol
Rhoi ID ar y gyflogres i’ch cyflogai
Gallwch bennu ID ar y gyflogres i’ch cyflogai. Mae’n rhaid bod yr ID yn unigryw - felly defnyddiwch un gwahanol:
- os ydych yn ail-gyflogi rhywun - os byddwch yn gwneud hyn o fewn yr un flwyddyn dreth, ailddechreuwch ei wybodaeth flwyddyn hyd yma o ‘£0.00’
- os oes mwy nag un swydd gan gyflogai yn yr un cynllun TWE
Os byddwch yn ailddefnyddio ID ar y gyflogres, byddwch yn creu cofnod dyblyg ac yn rhoi gwybod am y gyflogres yn anghywir.
Rheolau arbennig
Mae yna reolau arbennig ynghylch gwneud didyniadau ar gyfer y canlynol: