Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Datganiad rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 hwyr
Efallai y bydd angen i chi ddiweddaru eich cofnodion cyflogres os bydd eich cyflogai’n rhoi datganiad rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 i chi ar ôl i chi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Dim ond rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn y mae angen arnoch chi gan eich cyflogai i gyfrifo’i god treth (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r naill o’r canlynol yn wir:
- nid oes ganddo P45
- gwnaeth y cyflogai adael ei swydd ddiwethaf cyn 6 Ebrill 2023
Os yw CThEF wedi anfon cod treth atoch
Defnyddiwch y cod treth y mae CThEF wedi’i anfon atoch os bydd eich cyflogai’n rhoi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 i chi ar ôl i chi ei dalu am y tro cyntaf. Didynnwch unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyriwr o’r dyddiad y dechreuodd eich cyflogai gyda chi.
Os nad yw CThEF wedi anfon cod atoch
P45 hwyr
Defnyddiwch P45 eich cyflogai i gyfrifo’i god treth (yn agor tudalen Saesneg) a diweddaru’i fanylion yn eich meddalwedd gyflogres.
Os oedd eich cyflogai wedi gadael ei swydd ddiwethaf ar ôl 5 Ebrill 2023, dylech ddiweddaru’r ddau faes canlynol hefyd yn eich meddalwedd gyflogres:
- ‘Cyfanswm y cyflog hyd yma’
- ‘Cyfanswm y dreth hyd yma’
Gwnewch hyn am yr wythnos gyntaf yr oeddech wedi cynnwys yr wybodaeth hon. Os bydd eich meddalwedd yn darganfod gwallau, diweddarwch y meysydd gyda’r ffigurau cywir.
Rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn hwyr
Defnyddiwch restr wirio’ch cyflogai ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn i ddiweddaru’r datganiad ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn yn eich cofnodion cyflogres.
Parhewch i ddefnyddio’r cod treth rydych wedi’i ddefnyddio yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) hyd nes y bydd CThEF yn anfon un newydd atoch.
Pan fyddwch yn talu’ch cyflogai nesaf
Peidiwch â nodi dyddiad dechrau arall ar yr FPS, hyd yn oed os nad ydych wedi rhoi gwybod am ddyddiad dechrau o’r blaen.