Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Gwirio a oes angen i chi dalu rhywun drwy TWE
Fel arfer, bydd angen i chi dalu eich cyflogeion drwy TWE os ydynt yn ennill £123 yr wythnos neu fwy (£533 y mis neu £6,396 y flwyddyn).
Nid oes angen i chi dalu gweithwyr hunangyflogedig drwy TWE.
Deall a yw rhywun yn gyflogai neu’n hunangyflogedig
Fel rheol gyffredinol:
-
mae rhywun yn gyflogedig os yw’n gweithio i chi ac nad oes ganddo unrhyw un o’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhedeg busnes
-
mae rhywun yn hunangyflogedig os yw’n rhedeg ei fusnes ei hun a’i fod yn gyfrifol am ei lwyddiant neu ei fethiant
Mae’n rhaid i chi wirio statws cyflogaeth pob gweithiwr (yn agor tudalen Saesneg) i wneud yn siŵr nad ydynt yn hunangyflogedig. Os ydych yn cael y statws cyflogaeth anghywir, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ychwanegol, llog a chosb.
Gweithwyr dros dro neu weithwyr asiantaeth
Mae angen i chi weithredu TWE ar weithwyr dros dro yr ydych yn eu talu’n uniongyrchol, cyhyd â bo’r gweithiwr wedi’i ystyried yn gyflogai.
Nid oes angen i chi weithredu TWE os yw asiantaeth yn talu’r gweithiwr, oni bai bod yr asiantaeth wedi’i lleoli tramor ac nid oes ganddi’r naill o’r canlynol:
-
cyfeiriad masnach yn y DU
-
cynrychiolydd yn y DU
Mae yna reolau arbennig ar gyfer gweithwyr cynhaeaf neu gurwyr ar gyfer criw hela (yn agor tudalen Saesneg) sy’n gyflogedig am lai na 2 wythnos.
Cyflogeion rydych yn eu talu unwaith yn unig
Byddwch yn gweithredu TWE yn wahanol ar gyfer cyflogeion rydych yn eu talu unwaith yn unig.
Crëwch gofnod ar y gyflogres gan ddefnyddio’i enw llawn a’i gyfeiriad. Os byddwch yn rhoi ID ar y gyflogres, gwnewch yn siŵr ei fod yn unigryw.
Pan fyddwch yn anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS):
-
defnyddiwch god ‘0T’ ar sail ‘Wythnos 1’ neu ‘Mis 1’
-
rhowch ‘IO’ yn y maes ‘Amlder y cyflog’
-
peidiwch â rhoi dyddiad dechrau na dyddiad gadael
Rhowch ddatganiad i’ch cyflogai’n dangos ei dâl cyn ac ar ôl didyniadau, yn ogystal â’r dyddiad talu, er enghraifft slip cyflog (yn agor tudalen Saesneg) neu lythyr. Peidiwch â rhoi P45 iddo.
Gwirfoddolwyr
Nid oes angen i chi weithredu TWE ar gyfer gwirfoddolwyr sydd dim ond yn cael treuliau nad ydynt yn agored i dreth neu Yswiriant Gwladol - gwiriwch a yw hyn yn berthnasol i’w treuliau (yn agor tudalen Saesneg).
Myfyrwyr
Gweithredwch TWE ar gyfer myfyrwyr yn yr un modd ag y byddwch yn ei wneud ar gyfer cyflogeion eraill.