Amcangyfrif eich Treth Incwm am flwyddyn dreth flaenorol
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i amcangyfrif faint o Dreth Incwm y dylech fod wedi’i thalu yn ystod blwyddyn dreth flaenorol.
Mae angen i chi fod:
- yn drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol neu’r gyfradd uwch ac yn ennill llai na £100,000
- yn cael y Lwfans Personol
Mae gwahanol ddulliau o wneud y canlynol:
- gwirio faint o Dreth Incwm a daloch y llynedd (6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024)
- gwirio eich taliadau Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025)
- amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025)
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad os ydych wedi talu gormod.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen manylion am y canlynol:
- eich enillion, cyn ac ar ôl treth – gallwch gael y manylion hyn ar eich P60 (yn agor tudalen Saesneg)
- unrhyw gynilion – gallwch gael y manylion hyn o’ch cyfriflenni banc neu ddatganiad blynyddol o’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu
- unrhyw roddion Rhodd Cymorth rydych wedi’u gwneud i elusen
Pwy na all gael amcangyfrif ar-lein
Ni allwch gael amcangyfrif ar-lein os ydych:
- yn ennill £100,000 neu fwy
- yn cael budd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth
- yn gymwys i hawlio Lwfans Pâr Priod
- ag incwm trethadwy arall, megis incwm o ddifidendau ac ymddiriedolaethau
- yn drethdalwr ar y gyfradd uwch ac am amcangyfrif eich rhyddhad treth Rhodd Cymorth
Gallwch wirio eich bod wedi talu’r dreth gywir drwy gysylltu â CThEF neu drwy gael cymorth gan gyfrifydd.