Cyflwyno Ffurflen TAW
Cywiro camgymeriadau yn eich Ffurflen TAW
Gallwch gywiro camgymeriadau mewn Ffurflenni TAW am y 4 blynedd blaenorol, cyn belled â bod gwerth net y gwallau:
- yn £10,000 neu lai
- rhwng £10,000 a £50,000 ond yn llai nag 1% o gyfanswm gwerth eich gwerthiannau
Ar gyfer camgymeriadau fel hyn, gwnewch addasiad neu gywiriad yn eich Ffurflen TAW nesaf.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar wahân am unrhyw gamgymeriadau net sydd:
- dros £50,000
- dros £10,000, os ydynt yn fwy nag 1% o gyfanswm gwerth y gwerthiannau
- yn gamgymeriadau bwriadol
Gwirio sut i roi gwybod i CThEF am wallau yn eich Ffurflen TAW.
Cyfrifo gwerth net y camgymeriadau
I gyfrifo gwerth net y camgymeriadau:
- adiwch at ei gilydd y dreth ychwanegol sy’n ddyledus i CThEF
- tynnwch y dreth sy’n ddyledus i chi
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am gamgymeriadau bwriadol ar wahân - ni allwch gynnwys y rhain yn y cyfrifiad hwn.
Sut i wneud yr addasiad yn eich Ffurflen TAW nesaf
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW nesaf, ychwanegwch y gwerth net at flwch 1 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i CThEF, neu at flwch 4 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i chi.
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
cadw manylion am y camgymeriad (er enghraifft, y dyddiad y’i canfuwyd, sut y digwyddodd a swm y TAW sydd dan sylw)
-
cynnwys gwerth y camgymeriad yn eich cyfrif TAW
Cysylltwch â’r Tîm Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis os oes angen help arnoch wrth wneud cywiriadau.