Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw
Os bydd un rhiant yn marw, neu’r ddau ohonynt
Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn dod yn brif ofalwr plentyn neu blant i rywun sydd wedi marw.
Rhoi gwybod am y farwolaeth
Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post cyn gynted â phosibl am y farwolaeth.
Does dim rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych eisoes wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- dyddiad marwolaeth y rhiant
- lle mae’r plentyn yn byw nawr
- pwy sy’n gofalu am y plentyn
Unwaith y byddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am y farwolaeth, byddant yn gwneud y canlynol:
- canslo unrhyw daliadau Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad
- ysgrifennu at bwy bynnag sy’n gofalu am y plentyn cyn pen 20 diwrnod, i gadarnhau bod hyn wedi’i wneud
Gwneud hawliad
Ni fydd Budd-dal Plant yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i chi. Bydd angen i chi wneud hawliad newydd ar gyfer Budd-dal Plant os nad chi yw’r person sydd wedi’i enwi fel yr hawliwr ar y ffurflen hawlio wreiddiol.
Unwaith y rhoddir gwybod am y farwolaeth, bydd Budd-dal Plant yn stopio o’r dydd Llun ar ôl y farwolaeth. Dim ond hyd at 3 mis y gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant.
Cyfrifon banc
Gallwch gadarnhau’r cyfrif banc rydych am i’r arian gael ei dalu iddo ar y ffurflen hawlio.
Os mai chi yw’r person sy’n cael Budd-dal Plant ond cafodd yr arian ei dalu i gyfrif yr ymadawedig, dylech ddewis cyfrif gwahanol.
Cymorth ychwanegol
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael naill ai’r Lwfans Gwarcheidwad neu’r Lwfans Rhiant Gweddw ar ben y Budd-dal Plant.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r tâl treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant y byddwch yn ei gael.