Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Printable version
1. Trosolwg
Cynllun i helpu i ddiogelu Pensiwn y Wladwriaeth rhieni a gofalwyr oedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP). Fe wnaeth credydau Yswiriant Gwladol ddisodli HRP yn 2010.
Byddwch wedi cael HRP yn awtomatig os oeddech yn hawlio un o’r canlynol rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2010:
- Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed
- Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn gofalu am berson sâl neu anabl ac nad oeddech ar gael i weithio
Bydd angen i chi wneud cais ar gyfer HRP os credwch ei fod ar goll o’ch cofnod Yswiriant Gwladol (YG).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pwy all wneud cais
Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais am HRP os oeddech, am flynyddoedd treth llawn (6 Ebrill i 5 Ebrill) rhwng 1978 a 2010, naill ai:
- yn rhannu gofal plentyn o dan 16 oed gyda phartner yr oeddech yn byw gydag ef a’i fod yn hawlio Budd-dal Plant yn lle chi - mae’n bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo ei HRP
- yn gofalu am berson sâl neu anabl
Gallwch hefyd wneud cais os oeddech, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, naill ai:
- yn ofalwr maeth
- yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 06 Ebrill 2010
Cafodd unrhyw HRP a gawsoch am flynyddoedd treth llawn cyn 6 Ebrill 2010 ei drosi’n gredydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig, os oes eu hangen arnoch, hyd at uchafswm o 22 o flynyddoedd cymhwysol.
2. Yr hyn a gewch
Mae swm Pensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a nifer y ‘blynyddoedd cymhwysol’ sydd gennych.
Blwyddyn gymhwysol yw blwyddyn lle:
- roeddech yn gweithio ac yn talu Yswiriant Gwladol
- roeddech yn cael credydau Yswiriant Gwladol, er enghraifft os oeddech yn ddi-waith, yn sâl neu’n rhiant neu ofalwr
- roeddech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg)
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010
Mae Diogelu Cyfrifoldebau Cartref (HRP) wedi lleihau nifer y blynyddoedd cymhwysol sydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth hyd at 22 mlynedd.
I gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, roedd angen 39 o flynyddoedd cymhwysol ar fenyw a 44 o flynyddoedd cymhwysol ar ddyn.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 06 Ebrill 2010
Cafodd HRP ei droi’n gredydau Yswiriant Gwladol, os oedd eu hangen arnoch, hyd at uchafswm o 22 o flynyddoedd cymhwysol.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2016
Roedd angen 30 o flynyddoedd cymhwysol arnoch ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Mae’n bosibl eich bod wedi bod yn gymwys i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych yn gymwys i gael HRP oherwydd bod y canlynol yn wir:
- cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 6 oed
- roeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl (gan gynnwys plentyn dros 6 oed) a oedd yn cael budd-daliadau penodol
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2016
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Pensiwn newydd y Wladwriaeth.
3. Cymhwystra
Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), am flynyddoedd treth llawn (6 Ebrill i 5 Ebrill) rhwng 1978 a 2010, os oedd unrhyw un o’r canlynol yn wir:
- roeddech yn hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed
- roeddech yn gofalu am blentyn gyda’ch partner a hawliodd Fudd-dal Plant yn eich lle
- roeddech yn cael Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn gofalu am rywun a oedd yn sâl neu’n anabl
- roeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl a oedd yn hawlio budd-daliadau penodol
Gallwch hefyd wneud cais os oeddech, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, naill ai:
- yn ofalwr maeth
- yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban
Gwnaeth credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer rhieni a gofalwyr ddisodli HRP o 6 Ebrill 2010 ymlaen.
Pwy oedd yn gymwys yn awtomatig ar gyfer HRP
Cafodd y rhan fwyaf o bobl HRP yn awtomatig os oeddent:
- yn cael Budd-dal Plant yn eu henw ar gyfer plentyn o dan 16 oed a’u bod wedi rhoi eu rhif Yswiriant Gwladol i’r Swyddfa Budd-dal Plant
- yn cael Cymhorthdal Incwm ac nid oedd angen iddynt gofrestru ar gyfer gwaith oherwydd eu bod yn gofalu am rywun a oedd yn sâl neu’n anabl
Os oedd eich partner yn hawlio Budd-dal Plant yn eich lle
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo HRP oddi wrth bartner y buoch yn byw gydag ef pe bai’n hawlio Budd-dal Plant tra bo’r ddau ohonoch yn gofalu am blentyn o dan 16 oed ac nid oes angen yr HRP arnoch.
Gall drosglwyddo’r HRP i chi am unrhyw ‘flynyddoedd cymhwysol’ sydd ganddo ar ei gofnod Yswiriant Gwladol rhwng Ebrill 1978 ac Ebrill 2010. Bydd hyn yn cael ei drosi’n gredydau Yswiriant Gwladol.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2008, ni allwch drosglwyddo HRP.
Os oeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl
Dim ond am y blynyddoedd y buoch yn gofalu am rywun ag anabledd neu salwch hirdymor rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2002 y gallwch hawlio HRP.
Mae’n rhaid i chi fod wedi treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu amdano ac mae’n rhaid iddo fod wedi cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganol neu uchaf ar gyfer gofal personol
- Lwfans Gweini Cyson (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’n rhaid i’r budd-dal fod wedi ei dalu am 48 wythnos o bob blwyddyn dreth ar neu ar ôl 6 Ebrill 1988 neu bob wythnos o bob blwyddyn dreth cyn 6 Ebrill 1988.
Gallwch wneud cais o hyd os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg). Fel arfer, ni fyddwch yn cael unrhyw gynnydd mewn Pensiwn y Wladwriaeth a allai fod wedi bod yn ddyledus am flynyddoedd blaenorol.
Os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr
Nid oes angen i chi wneud cais am HRP os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr. Byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig ac ni fyddai fel arfer wedi bod angen HRP arnoch.
Os oeddech yn ofalwr maeth neu’n gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu
Mae’n rhaid i chi wneud cais am HRP os, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, roeddech naill ai:
- yn ofalwr maeth
- yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban
Mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn wir hefyd:
- nad oeddech yn cael Budd-dal Plant
- nad oeddech mewn gwaith am dâl
- ni wnaethoch ennill digon mewn blwyddyn dreth iddo gyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth
Gwragedd priod neu weddwon
Ni allwch gael HRP am unrhyw flwyddyn dreth gyflawn os oeddech yn wraig briod neu’n weddw a bod y canlynol yn wir:
- roeddech wedi dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg) fel cyflogai (a elwir yn gyffredin fel y stamp bach)
- roeddech wedi dewis peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan oeddech yn hunangyflogedig
Gwirio a ydych yn gymwys
Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr cymhwystra Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref i weld a ydych yn gymwys.
4. Sut i hawlio
I wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post. Gallwch hefyd wneud cais i drosglwyddo HRP oddi wrth rywun arall.
Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am ffurflen gais.
Os oeddech yn ofalwr maeth neu’n gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu
Ar ôl i chi wneud cais, bydd angen i chi ddarparu llythyr gan eich cyngor lleol neu’r asiantaeth roeddech yn gweithio iddi.
Mae hyn er mwyn cadarnhau eich bod, drwy gydol y flwyddyn dreth lawn, naill ai:
- yn ofalwr maeth cymeradwy
- yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban
Os oeddech yn gofalu am berson sâl neu anabl
Mae’n rhaid i chi gynnwys tystiolaeth sy’n dangos faint o fudd-dal a dalwyd i’r person tra oeddech yn gofalu amdano, er enghraifft sy’n dangos tystiolaeth o fudd-dal. Gwiriwch pa fudd-daliadau sy’n gymwy.
Mae’n rhaid iddo fod wedi bod yn cael y budd-dal ar gyfer naill ai:
- 48 wythnos o bob blwyddyn dreth ar neu ar ôl 6 Ebrill 1988
- bob wythnos o bob blwyddyn dreth cyn 6 Ebrill 1988