Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif
Creu cyfrif ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF
Bydd angen i chi greu cyfrif Porth y Llywodraeth er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF.
Mae 3 math o gyfrif:
-
cyfrifon unigolion
-
cyfrifon sefydliadau
-
cyfrifon i asiantau
Cyfrifon unigolion
Er enghraifft, gallwch wneud y canlynol:
-
creu cyfrif treth personol i wirio pethau fel eich Treth Incwm amcangyfrifedig a’ch cod treth, diweddaru’ch manylion personol, a hawlio ad-daliad treth os oes un yn ddyledus
-
cofrestru ar gyfer Hunanasesiad os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad i roi gwybod am incwm rhent neu incwm o fuddsoddi
Gallwch ddefnyddio’r un manylion mewngofnodi ar gyfer Porth y Llywodraeth i gael mynediad at y ddau gyfrif. Er enghraifft, os byddwch yn creu cyfrif treth personol gallwch wedyn ychwanegu Hunanasesiad at y cyfrif hwnnw.
Cyfrifon sefydliadau
Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifon ar gyfer:
-
busnesau, megis cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau ac unig fasnachwyr (cyfrifon treth busnes)
Cyfrifon treth busnes
Unwaith eich bod chi wedi creu eich cyfrif treth busnes, gallwch ei ddefnyddio, er enghraifft, i wneud y canlynol:
-
cofrestru ar gyfer Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig
-
cofrestru ar gyfer TAW os yw’ch trosiant trethadwy dros y trothwy ar gyfer TAW
-
trefnu TWE (yn agor tudalen Saesneg) gan eich bod wedi dechrau cyflogi pobl
-
ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) os ydych wedi sefydlu cwmni cyfyngedig neu sefydliad arall sydd angen talu’r dreth hon
Os ydych yn asiant
Gallwch ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF ar ran eich cleientiaid (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn asiant treth neu’n ymgynghorydd treth.