Codau ardystiadau a phwyntiau cosb

Mae gan bob ardystiad god arbennig a rhoddir ‘pwyntiau cosb’ iddo ar raddfa o 1 i 11. Rydych yn cael mwy o bwyntiau am droseddau mwy difrifol.

Mae’r tabl yn dangos y codau trosedd y gellir eu rhoi ar eich cofnod gyrru. Mae hefyd yn dangos faint o bwyntiau cosb y gallwch eu cael amdanynt. Gall rhai troseddau hefyd gynnwys gwaharddiad.

Rhaid i godau trosedd a phwyntiau cosb aros ar eich cofnod gyrru am 4 neu 11 mlynedd, yn dibynnu ar y drosedd.

Troseddau sy’n gysylltiedig â damweiniau

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
AC10 Methu â stopio ar ôl damwain 5 i 10
AC20 Methu â rhoi manylion neu roi gwybod am ddamwain o fewn 24 awr 5 i 10
AC30 Troseddau damwain heb eu diffinio 4 i 9

Gyrrwr wedi’i wahardd

Rhaid i godau BA10 a BA30 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
BA10 Gyrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd gan orchymyn llys 6
BA30 Ceisio gyrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd gan orchymyn llys 6

Rhaid i godau BA40 a BA60 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
BA40 Achosi marwolaeth wrth yrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd 3 i 11
BA60 Achosi niwed difrifol wrth yrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd 3 i 11

Gyrru diofal

Rhaid i godau CD10 a CD33 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CD10 Gyrru heb ofal na sylw priodol 3 i 9
CD20 Gyrru heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill 3 i 9
CD30 Gyrru heb ofal na sylw priodol neu heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill 3 i 9
CD33 Achosi niwed difrifol drwy yrru diofal neu anystyriol 3 i 9

Rhaid i godau CD40 a CD70 aros ar gofnod gyrru am 11 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CD40 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal pan fyddwch yn anghymwys oherwydd diod 3 i 11
CD50 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal pan fyddwch yn anghymwys oherwydd cyffuriau 3 i 11
CD60 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal gyda lefel alcohol uwchben y terfyn 3 i 11
CD70 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal ac yna methu â rhoi sbesimen ar gyfer dadansoddiad alcohol 3 i 11

Rhaid i godau CD80 a CD90 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CD80 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal neu anystyriol 3 i 11
CD90 Achosi marwolaeth drwy yrru: gyrwyr heb drwydded, wedi’u gwahardd neu heb yswiriant 3 i 11

Troseddau adeiladu a defnydd

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CU10 Defnyddio cerbyd gyda breciau diffygiol 3
CU20 Achosi neu’n debygol o achosi perygl oherwydd defnyddio cerbyd anaddas neu ddefnyddio cerbyd â rhannau neu ategion (ac eithrio breciau, llywio neu deiars) mewn cyflwr peryglus 3
CU30 Defnyddio cerbyd gyda theiar(s) diffygiol 3
CU40 Defnyddio cerbyd gyda llywio diffygiol 3
CU50 Achosi neu’n debygol o achosi perygl oherwydd llwyth neu deithwyr 3
CU80 Torri gofynion o ran rheoli’r cerbyd, fel defnyddio ffôn symudol 3 i 6

Gyrru diofal/beryglus

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DD10 Achosi niwed difrifol wrth yrru’n beryglus 3 i 11
DD40 Gyrru peryglus 3 i 11
DD60 Dynladdiad neu laddiad beius wrth yrru cerbyd 3 i 11  
DD80 Achosi marwolaeth wrth yrru’n beryglus 3 i 11
DD90 Gyrru gwyllt 3 i 9

Yfed

Rhaid i godau DR10 a DR61 aros ar gofnod gyrru am 11 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR10 Gyrru neu geisio gyrru â lefel alcohol uwchben y terfyn 3 i 11
DR20 Gyrru neu geisio gyrru tra’n anghymwys oherwydd diod 3 i 11
DR30 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal ac yna methu â rhoi sbesimen ar gyfer dadansoddiad alcohol 3 i 11
DR31 Gyrru neu geisio gyrru ac yna’n gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer dadansoddiad sampl gwaed a gymerwyd heb ganiatâd oherwydd anallu 3 i 11
DR61 Gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer dadansoddiad sampl gwaed a gymerwyd heb ganiatâd oherwydd anallu mewn amgylchiadau ac eithrio gyrru neu geisio gyrru 10

Rhaid i godau DR40 i DR70 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd neu 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn lle mae gwaharddiad yn cael ei osod.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR40 Yn gyfrifol am gerbyd tra bod y lefel alcohol uwchben y terfyn 10
DR50 Yn gyfrifol am gerbyd tra’n anghymwys oherwydd diod 10
DR60 Methu â darparu sbesimen ar gyfer dadansoddiad mewn amgylchiadau ac eithrio gyrru neu geisio gyrru 10
DR70 Methu â chydsynio â phrawf rhagarweiniol 4

Cyffuriau

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 11 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DG10 Gyrru neu geisio gyrru gyda lefel cyffuriau uwchben y terfyn a nodir 3 i 11
DG60 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal gyda lefel cyffuriau uwchben y terfyn 3 i 11
DR80 Gyrru neu geisio gyrru tra’n anghymwys oherwydd cyffuriau 3 i 11

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd neu 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn lle mae gwaharddiad yn cael ei osod.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DG40 Yn gyfrifol am gerbyd tra bod y lefel cyffuriau uwchben y terfyn 10
DR70 Methu â chydsynio â phrawf rhagarweiniol 4
DR90 Yn gyfrifol am gerbyd tra’n anghymwys oherwydd cyffuriau 10

Troseddau yswiriant

Rhaid i god IN10 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
IN10 Defnyddio cerbyd heb ei yswirio yn erbyn risgiau trydydd parti 6 i 8

Troseddau trwydded

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
LC20 Gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded 3 i 6
LC30 Gyrru ar ôl gwneud datganiad ffug ynghylch ffitrwydd wrth wneud cais am drwydded 3 i 6
LC40 Gyrru cerbyd wedi methu â rhoi gwybod am anabledd 3 i 6
LC50 Gyrru ar ôl i drwydded gael ei chanslo (diddymu) neu ei gwrthod ar sail feddygol 3 i 6

Troseddau amrywiol

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
MS10 Gadael cerbyd mewn safle peryglus 3
MS20 Reidio piliwn yn anghyfreithlon 3
MS30 Troseddau stryd chwarae 2
MS50 Rasio modur ar y briffordd 3 i 11
MS60 Troseddau nad ydynt yn dod o dan godau eraill (gan gynnwys troseddau sy’n ymwneud â thorri gofynion o ran rheoli cerbyd) 3
MS70 Gyrru gyda golwg diffygiol heb ei gywiro 3
MS80 Gwrthod caniatáu cael prawf golwg 3
MS90 Methu â rhoi gwybodaeth er mwyn adnabod gyrrwr ac ati 6

Troseddau traffordd

Rhaid i god MW10 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
MW10 Torri rheoliadau ffyrdd arbennig (ac eithrio terfynau cyflymder) 3

Croesfannau i gerddwyr

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
PC10 Torri anniffiniedig o reoliadau croesfannau i gerddwyr 3
PC20 Torri rheoliadau croesfannau i gerddwyr gyda cherbyd sy’n symud 3
PC30 Torri rheoliadau croesfannau i gerddwyr gyda cherbyd sy’n llonydd 3

Terfynau cyflymder

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
SP10 Gyrru’n gynt na therfynau cyflymder cerbydau nwyddau 3 i 6
SP20 Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder ar gyfer y math o gerbyd (ac eithrio cerbydau nwyddau neu gerbydau teithwyr) 3 i 6
SP30 Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus 3 i 6
SP40 Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder cerbyd teithwyr 3 i 6
SP50 Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder ar draffordd 3 i 6

Cyfarwyddiadau ac arwyddion traffig

Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
TS10 Methu â chydymffurfio ag arwyddion goleuadau traffig 3
TS20 Methu â chydymffurfio â llinellau gwyn dwbl 3
TS30 Methu â chydymffurfio ag arwydd ‘stop’ 3
TS40 Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd gan gwnstabl/warden 3
TS50 Methu â chydymffurfio ag arwydd traffig (ac eithrio arwyddion ‘stop’, goleuadau traffig neu linellau gwyn dwbl) 3
TS60 Methu â chydymffurfio ag arwydd hebryngwr croesfan ysgol 3
TS70 Methiant anniffiniedig i gydymffurfio ag arwydd cyfeirio traffig 3

Cod arbennig

Rhaid i god TT99 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Mae’n dangos gwaharddiad o dan weithdrefn ‘adio’ - os bydd cyfanswm y pwyntiau cosb yn cyrraedd 12 neu fwy o fewn 3 blynedd, gall y gyrrwr gael ei wahardd.

Dwyn neu gymryd heb awdurdod

Rhaid i god UT50 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
UT50 Cymryd cerbyd yn waethygedig 3 i 11

Codau ‘cydnabyddiaeth gilyddol’

Byddwch yn cael cod ‘MR’ ar eich cofnod gyrru os ydych yn cael eich gwahardd rhag gyrru yng Ngogledd Iwerddon neu Ynys Manaw. Bydd eich cyfnod gwahardd hefyd yn ddilys ym Mhrydain Fawr a bydd yn aros ar eich cofnod am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd
MR09 Gyrru yn ddi-hid neu’n beryglus (p’un a yw’n arwain at farwolaeth, anaf neu risg ddifrifol ai peidio)
MR19 Methiant bwriadol i gyflawni’r rhwymedigaeth a osodwyd ar yrrwr ar ôl cymryd rhan mewn damweiniau ffordd (taro neu ffoi)
MR29 Gyrru car tra o dan ddylanwad alcohol neu sylwedd arall yn effeithio ar neu’n lleihau galluoedd meddyliol a chorfforol gyrrwr
MR39 Gyrru cerbyd yn gyflymach na’r cyflymder a ganiateir
MR49 Gyrru cerbyd tra’ch bod wedi eich gwahardd
MR59 Ymddygiad arall sy’n cynnwys trosedd lle mae gwaharddiad gyrru wedi’i roi gan ffurf y drosedd

Troseddau helpu, annog, cwnsela neu beri

Yr gyfer y troseddau hyn, mae’r codau’n debyg, ond gyda’r rhif 0 ar y cod wedi newid i 2.

Er enghraifft, mae cod LC20 (gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded) yn dod yn god LC22 ar eich cofnod gyrru os ydych wedi helpu rhywun i wneud hyn.

Troseddau achosi neu ganiatáu

Yr gyfer y troseddau hyn, mae’r codau’n debyg, ond gyda’r rhif 0 ar y cod wedi newid i 4.

Er enghraifft, mae LC20 (gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded) yn dod yn LC24 ar eich trwydded os ydych wedi achosi neu ganiatáu i rywun wneud hyn.

Troseddau ysgogi

Yr gyfer y troseddau hyn, mae’r codau’n debyg, ond gyda’r rhif 0 ar y cod wedi newid i 6.

Er enghraifft, mae DD40 (gyrru peryglus) yn dod yn DD46 ar eich cofnod gyrru os ydych wedi ysgogi rhywun i wneud hyn.