Pwyntiau cosb (ardystiadau)
Pa mor hir y mae ardystiadau yn aros ar eich cofnod gyrru
Mae ardystiadau’n aros ar eich cofnod gyrru am 4 neu 11 mlynedd, yn dibynnu ar y drosedd. Gall hyn ddechrau naill ai o’r dyddiad y cewch yn euog neu ddyddiad eich trosedd.
Mae’r ardystiad yn ‘ddilys’ am:
-
y 3 blynedd gyntaf, ar gyfer ardystiad 4 blynedd
-
y 10 mlynedd cyntaf, ar gyfer ardystiad 11 mlynedd
Gall llys ystyried eich ardystiad os yw’r ddau o’r canlynol yn wir:
-
os byddwch yn cyflawni trosedd arall tra bo’n ddilys
-
os bydd yr ardystiad yn dal ar eich cofnod gyrru pan fydd y llys yn ystyried eich achos
Efallai y bydd pobl eraill, fel yswirwyr a chyflogwyr, yn gallu darganfod bod gennych yr ardystiad:
-
ar unrhyw adeg yn ystod ardystiad 4 blynedd
-
yn ystod 5 mlynedd cyntaf ardystiad 11 mlynedd, neu’r 30 mis cyntaf os ydych o dan 18 oed
4 blynedd o ddyddiad euogfarn
Bydd ardystiad yn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad euogfarn os yw’r drosedd:
-
am yrru diofal/beryglus - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel DD40, DD60 a DD80
-
yn arwain at waharddiad
Enghraifft
Dyddiad euogfarn 28 Mai 2011 - rhaid i’r ardystiad aros ar y cofnod gyrru tan 28 Mai 2015.
4 blynedd o ddyddiad trosedd
Ym mhob achos arall, mae ardystiadau’n aros ar eich cofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Enghraifft
Dyddiad euogfarn 10 Mehefin 2012 - rhaid i’r ardystiad aros ar y cofnod gyrru tan 10 Mehefin 2016.
11 blynedd o ddyddiad euogfarn
Os yw’r drosedd am:
-
yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel DR10, DR20, DR30, DR31, DR61 a DR80
-
achosi marwolaeth drwy yrru diofal dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel CD40, CD50 a CD60
-
achosi marwolaeth drwy yrru diofal, ac yna methu â rhoi sbesimen ar gyfer dadansoddiad - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel CD70
Enghraifft
Dyddiad euogfarn 3 Rhagfyr 2009 - rhaid i’r ardystiad aros ar y cofnod gyrru tan 3 Rhagfyr 2020.