Pwyntiau cosb (ardystiadau)
Sut i wirio eich manylion ardystiadau
Gweld eich cofnod trwydded yrru i weld pa bwyntiau cosb sydd gennych a phryd y byddant yn cael eu dileu.
Gallwch hefyd gysylltu â DVLA.
Manylion ardystiadau anghywir ar eich trwydded
Cysylltwch â’r llys a’ch cafwyd yn euog os dangosir eich manylion ardystiadau yn anghywir ar eich trwydded yrru.