Pwyntiau cosb (ardystiadau)
Gyrwyr newydd
Bydd eich trwydded yn cael ei chanslo (diddymu) os byddwch yn cael 6 neu fwy o bwyntiau o fewn 2 flynedd ichi basio’ch prawf.
Pwyntiau ar eich trwydded dros dro
Bydd unrhyw bwyntiau cosb ar eich trwydded dros dro sydd heb ddod i ben yn cael eu trosglwyddo drosodd i’ch trwydded lawn pan fyddwch yn pasio’ch prawf. Fodd bynnag, bydd eich trwydded yn cael ei chanslo os cewch unrhyw bwyntiau cosb pellach sy’n mynd â chi hyd at gyfanswm o 6 neu fwy o fewn 2 flynedd ichi basio’ch prawf gyrru.
Os caiff eich trwydded ei chanslo o fewn 2 flynedd
Bydd yn rhaid ichi wneud cais a thalu am drwydded dros dro newydd a phasio’r rhannau theori ac ymarferol o’r prawf gyrru neu reidio eto i gael trwydded lawn.
Os nad ydych wedi anfon am eich trwydded lawn
Mae’n rhaid ichi ail-sefyll y ddwy ran o’ch prawf gyrru os ydy’ch trwydded wedi cael ei chanslo ar ôl ichi basio eich prawf, ond nid ydych wedi anfon am eich trwydded lawn eto. Gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru dros dro bresennol i sefyll y profion.
Pwy sy’n cael eu cynnwys yn y rheolau
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i bob gyrrwr newydd a basiodd ei brawf gyrru cyntaf yn y canlynol:
-
Prydain Fawr
-
Gogledd Iwerddon
-
Ynys Manaw
-
Ynysoedd y Sianel
-
Gibraltar
-
Y Gymuned Ewropeaidd (CE) a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
Y gwledydd CE/AEE yw:
Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Croatia, Gweriniaeth Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Slofenia, Slofacia, Sbaen a Sweden.
Nid oes cyfnod 2 flynedd arall os byddwch yn pasio prawf am gategori arall o gerbyd, er enghraifft i yrru cerbyd nwyddau trwm.
Trwyddedau tramor
Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol os ydych yn cyfnewid trwydded yrru dramor am drwydded Brydeinig ac yna pasio prawf gyrru pellach ym Mhrydain Fawr.