Pwyntiau cosb (ardystiadau)
Dychwelyd eich trwydded yrru i’w hardystio
Os cewch hysbysiad cosb benodedig am drosedd foduro, nid oes angen ichi roi eich trwydded yrru i’r heddlu neu’r swyddfa gosb benodedig (FPO).
I dderbyn y gosb benodedig, mae angen ichi roi’r canlynol iddynt:
-
eich enw
-
eich dyddiad geni
-
eich rhif trwydded yrru
Bydd yr FPO yn dweud wrth DVLA am yr ardystiad (gan gynnwys pwyntiau cosb) fel y gallant ei ychwanegu at eich cofnod.
Efallai y gofynnir ichi roi eich trwydded i mewn yn y llys. Bydd y llys wedyn yn ei hanfon i DVLA. Os na fyddwch yn ei rhoi i mewn, yna efallai y gofynnir ichi ei hanfon i DVLA.
Pryd mae’n rhaid ichi anfon eich trwydded i DVLA
Bydd DVLA yn ysgrifennu atoch yn gofyn ichi anfon eich trwydded atynt os:
-
rydych yn yrrwr newydd, sydd wedi cael 6 neu fwy o bwyntiau cosb o fewn 2 flynedd ichi basio’ch prawf, ac mae DVLA wedi diddymu eich trwydded
-
rydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru gan y llys ac ni wnaethoch roi’ch trwydded i’r llys
-
mae’r drwydded a roesoch i’r llys yn annilys
-
rydych wedi rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi newid eich cyfeiriad
Rhaid ichi anfon eich trwydded yrru i DVLA pan ofynnir ichi wneud hynny. Os na wnewch hynny, gallech gael dirwy o hyd at £1000.