Rhoi gwybod am newidiadau sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant

Sgipio cynnwys

Os bydd newid yn eich amgylchiadau neu os bydd angen i chi ddiweddaru’ch manylion

Dylech roi gwybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich Budd-dal Plant. Os na wnewch hynny, mae’n bosibl na chewch yr holl arian y mae gennych hawl iddo, neu y mae’n bosibl y cewch eich gordalu ac yn gorfod talu arian yn ôl.

Dim ond y person sy’n hawlio Budd-dal Plant sy’n gallu rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ynghylch newid mewn amgylchiadau.

Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod am newid a’ch bod yn aros i glywed yn ôl, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Rhowch wybod am newidiadau i’ch amgylchiadau teuluol os yw’r canlynol yn berthnasol:

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid i’ch cyfeiriad, ac ni all CThEF gysylltu â chi, bydd eich taliadau’n dod i ben.

Os byddwch yn dechrau ennill dros £60,000

Os byddwch chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Mae’n dal i fod yn rhaid i chi roi gwybod am newidiadau, hyd yn oed os yw’ch Budd-dal Plant wedi dod i ben o achos y tâl treth Budd-dal Plant.

Os bydd eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu’n newid

Mewngofnodwch i roi gwybod i CThEF os yw’ch manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu’n newid.

Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Gallwch hefyd roi gwybod i CThEF drwy ddefnyddio ap CThEF.

Os byddwch yn newid eich enw neu’ch rhywedd

Rhowch wybod i CThEF os byddwch yn newid eich enw neu os byddwch yn newid eich rhywedd.

Os byddwch yn dechrau gofalu am blentyn arall

Os byddwch yn cael babi, neu’n dechrau gofalu am blentyn, gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Plant.

Rhowch wybod i CThEF os yw cyngor lleol neu asiantaeth yn eich talu i ofalu am blentyn (er enghraifft, maethu).

Os bydd teuluoedd yn dod at ei gilydd

Rhowch wybod i CThEF os ydych yn symud i mewn gyda phartner sydd hefyd yn hawlio Budd-dal Plant.

Cewch £25.60 ar gyfer plentyn hynaf yr aelwyd. Cewch £16.95 ar gyfer unrhyw blant iau.

Gallwch chi a’ch partner hawlio ar gyfer gwahanol blant. Os ydych yn byw gyda’ch gilydd, ni all y ddau ohonoch hawlio ar y gyfradd uwch – mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu rhan o’r arian yn ôl os byddwch yn gwneud hynny.

Os byddwch yn symud dramor, neu i Ogledd Iwerddon

Rhowch wybod am newidiadau i amgylchiadau’ch teulu os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn bwriadu mynd dramor am fwy nag 8 wythnos
  • rydych chi neu’ch partner yn bwriadu symud dramor am fwy na blwyddyn
  • rydych yn was y Goron a byddwch yn gadael y DU am swydd dramor
  • rydych yn symud i Ogledd Iwerddon, neu oddi yno

Os bydd rhiant yn marw

Rhowch wybod i CThEF os bydd un o rieni’r plentyn yn marw, neu’r ddau ohonynt.

Dulliau eraill o roi gwybod am newidiadau

Gallwch hefyd ffonio neu ysgrifennu at CThEF.