Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol

Sgipio cynnwys

Newidiadau incwm

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am newidiadau i’ch incwm trethadwy.

I wneud hyn, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallech dalu gormod o dreth neu gael bil treth ar ddiwedd y flwyddyn.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF amdano

Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i CThEF:

  • pan fyddwch yn dechrau neu’n gorffen eich swydd

  • pan fo newid yn yr arian yr ydych yn ei ennill o’ch swydd neu’n ei gael o’ch pensiwn

Ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau eraill, er enghraifft pan fyddwch yn dechrau neu’n gorffen cael y canlynol:

Os ydych yn cael credydau treth

Rhowch wybod i CThEF ar wahân am newidiadau sy’n effeithio ar eich credydau treth.

Os yw’ch priod neu’ch partner sifil yn marw

Rhowch wybod i CThEF am newidiadau i’ch incwm (yn agor tudalen Saesneg) ar ôl marwolaeth eich gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Os ydych yn gwneud ‘taliadau ar gyfrif’ ar gyfer Hunanasesiad

Rhowch wybod i CThEF os ydych yn disgwyl gostyngiad mawr yn eich incwm a’ch bod yn talu’ch bil treth Hunanasesiad o flaen llaw (‘taliadau ar gyfrif’). Mae’n bosibl y bydd CThEF yn penderfynu gostwng eich taliadau.

Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF

Gall CThEF wneud y canlynol:

  • newid eich cod treth ac anfon Hysbysiad Cod TWE atoch

  • dweud wrthych am anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad er mwyn iddynt allu anfon bil atoch ar gyfer y dreth sydd arnoch

  • anfon ad-daliad atoch os ydych wedi talu gormod o dreth