Rhoi ystafell yn eich cartref ar osod
Dod yn landlord preswyl
Rydych yn landlord preswyl os ydych yn rhoi rhan o’ch prif gartref, neu’ch unig gartref, ar osod.
Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn rhoi rhan o’ch cartref ar osod (er enghraifft drwy apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Os felly, bydd gennych gyfrifoldebau a hawliau penodol:
-
byddwch yn gyfrifol am gadw’r eiddo yn ddiogel ac mewn cyflwr da (yn agor tudalen Saesneg)
-
nid oes gan denant neu lojer yr hawl i herio’r rhent a gytunwyd arno
-
mae’n bosibl y gallwch ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn rhydd o dreth o dan y Cynllun Rhentu Ystafell
-
gallwch roi llai o rybudd pan fyddwch yn dod â thenantiaeth i ben o gymharu â’r rhybudd y mae’n rhaid i chi ei roi os ydych yn rhoi’r holl eiddo ar osod
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gofynnwch am eirda gan denantiaid neu lojers posibl, a gwirio’r rhain cyn llofnodi unrhyw gytundeb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllaw ynghylch rhoi ystafelloedd yn eich cartref ar osod (yn agor tudalen Saesneg).