Rhenti, biliau, trethi

Rhent

Eich penderfyniad chi yw faint o rent yr ydych am ei godi, ond dylech gytuno’r swm hwn â’ch tenant ymlaen llaw. Gallwch hefyd ofyn am flaendal a derbyn Budd-dal Tai ar gyfer rhent. 

Mae’n rhaid i chi roi llyfr rhent i denantiaid sy’n talu’n wythnosol. 

Treth Gyngor

Byddwch yn gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor (yn agor tudalen Saesneg), a gallwch gynnwys rhan o’r gost hon fel rhan o’r rhent y byddwch yn ei godi. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor os bydd cael tenant yn golygu nad ydych yn gymwys i gael gostyngiad fel person sengl mwyach.

Os nad ydych yn siŵr pwy y dylai talu’r Dreth Gyngor, gwiriwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg).

Biliau cyfleustodau

Os mai chi sy’n talu’r biliau cyfleustodau ar gyfer y tŷ cyfan, gallwch gynnwys tâl fel rhan o’r rhent neu osod mesuryddion rhagdaledig. 

Ni allwch godi tâl ond am y swm a dalwyd gennych am nwy a thrydan (gan gynnwys TAW), neu gallech wynebu achosion sifil. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch reolau Ofgem ynghylch ailwerthu nwy a thrydan (yn agor tudalen Saesneg).

Treth Incwm

Mae Treth Incwm yn daladwy ar yr incwm rhent y byddwch yn ei gael. 

Os nad ydych yn rhan o’r Cynllun Rhentu Ystafell, bydd Treth Incwm yn cael ei chodi ar unrhyw incwm rhent y byddwch yn ei gael ar ôl tynnu treuliau busnes gosod eiddo (yn agor tudalen Saesneg). Mae enghreifftiau o dreuliau busnes yn cynnwys:

  • yswiriant

  • cynnal a chadw 

  • atgyweiriadau (ond nid gwelliannau)

  • biliau cyfleustodau

Os ydych yn rhan o’r Cynllun Rhentu Ystafell, byddwch yn talu Treth Incwm mewn ffordd wahanol. 

Treth Enillion Cyfalaf

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref os:

  • ydych yn rhoi’r eiddo cyfan, neu ran ohono, ar osod

  • oes gennych fwy nag 1 tenant neu lojer ar y tro

Fodd bynnag, mae’n bosibl bod gennych hawl i gael Rhyddhad Man Preswylio Preifat a Rhyddhad Gosod (yn agor tudalen Saesneg).

Blaendaliadau

Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid preswyl ddiogelu blaendaliadau eu tenantiaid (yn agor tudalen Saesneg) drwy un o’r cynlluniau a gymeradwywyd gan y llywodraeth. 

Gall eich cyngor lleol warantu rhent ar gyfer tenant posibl sy’n methu fforddio blaendal.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu trethi eraill os ydych yn rhedeg eiddo gwely a brecwast, neu os ydych yn darparu gwasanaethau glanhau a phrydau o fwyd i’ch gwesteion. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.