Rhoi ystafell yn eich cartref ar osod

Skip contents

Y math o denantiaeth sydd gan eich lojer

Mae’r ffordd yr ydych yn rhannu’ch cartref â lojer yn cael effaith ar y math o denantiaeth sydd ganddo. Bydd hyn, yn ei dro, yn cael effaith ar hawliau’r lojer a’r ffordd y gallwch ddod â’r denantiaeth i ben. 

Mae’ch lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio

Mae’n debygol bod eich lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n byw yn eich cartref chi

  • rydych chi, neu aelod o’ch teulu, yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu ystafell fyw ag ef

Yn yr achos hwn, dim ond rhoi ‘hysbysiad rhesymol’ iddo y mae angen i chi ei wneud er mwyn dod â’i denantiaeth i ben – ac ni fydd angen i chi fynd i’r llys i’w droi allan.

Fel arfer, mae ‘hysbysiad rhesymol’ yn golygu hyd y cyfnod ar gyfer talu’r rhent. Er enghraifft, os telir y rhent yn fisol, dylech roi un mis o rybudd.

Mae gan eich lojer ddiogelwch sylfaenol

Mae’n debygol bod eich lojer yn feddiannydd â diogelwch sylfaenol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n byw yn eich cartref chi

  • nid yw’n rhannu unrhyw ystafelloedd â chi na’ch teulu

Os na fydd eich lojer yn gadael pan fyddwch yn gofyn iddo adael, bydd angen i chi gael gorchymyn llys er mwyn ei droi allan

Hyd y denantiaeth

Gall tenantiaeth neu drwydded redeg am:

  • gyfnod amhenodol – hynny yw, yn rhedeg am gyfnod amhenodol o 1 cyfnod rhentu i’r nesaf

  • cyfnod penodol – hynny yw, yn para am nifer benodol o wythnosau, misoedd neu flynyddoedd

Os nad ydych yn cytuno ar gyfnod penodol ar gyfer tenantiaeth, bydd y denantiaeth yn cael ei thrin fel un ‘cyfnod amhenodol’ yn awtomatig. 

Gall trwyddedau fod yn benagored ar gyfer trefniadau anffurfiol, megis os ydych yn caniatáu i ffrind aros dros dro o bryd i’w gilydd.