Dod â thenantiaeth i ben

Sut i ddod â thrwydded neu denantiaeth sydd wedi’i heithrio i ben

Os yw’ch lojer yn feddiannydd sydd wedi’i eithrio, dim ond rhoi ‘hysbysiad rhesymol’ iddo y mae angen i chi ei wneud cyn dod â’r denantiaeth i ben. 

Fel arfer, mae’r ‘hysbysiad rhesymol’ yn golygu hyd y cyfnod ar gyfer talu’r rhent – felly, os telir y rhent yn wythnosol, bydd angen i chi roi un wythnos o rybudd.  Nid oes rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig.

Gallwch wedyn fynd ati i newid y cloeon ar ddrws ystafell eich lojer, hyd yn oed os yw ei bethau yn yr ystafell o hyd. Mae’n rhaid i chi roi ei bethau yn ôl iddo.

Sut i ddod â thrwydded neu denantiaeth sydd heb ei heithrio i ben

Os yw’ch lojer yn feddiannydd â diogelwch sylfaenol, mae’n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig iddo cyn dod â’r denantiaeth i ben. Yn aml, mae’r cyfnod rhybudd yn 4 wythnos, ond bydd hyn yn dibynnu ar y denantiaeth neu’r cytundeb.

Os na fydd eich lojer yn gadael, bydd angen i chi gael gorchymyn llys er mwyn ei droi allan (yn agor tudalen Saesneg)

Sut y gall eich lojer ddod â’r denantiaeth i ben

Gall eich lojer ddod â’r denantiaeth i ben gan roi cyfnod o rybudd i chi. Ni all eich lojer wneud hyn yn ystod cyfnod penodol y denantiaeth, oni bai bod cymal terfynu.

Bydd y cyfnod o rybudd y mae angen i’r tenant ei roi yn dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth, os oes un i’w gael. Fel arall, mae’n rhaid rhoi cyfnod rhybudd o 4 wythnos o leiaf (os yw’r lojer yn talu’n wythnosol), neu 1 mis (os yw’n talu’n fisol).

Gallwch chi a’ch tenant ddod â’r denantiaeth i ben ar unrhyw adeg os yw’r ddau ohonoch yn cytuno i wneud hynny.

Newid perchnogaeth 

Os ydych yn rhoi’r gorau i fyw yn eich cartref, gall y tenant barhau i aros yno, ond mae’n bosibl y bydd y math o denantiaeth sydd ganddo yn newid er mwyn adlewyrchu’r ffaith nad ydych yn byw yno bellach.

Os ydych yn gwerthu’ch cartref, a bod y perchennog newydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel landlord preswyl, bydd yn rhaid iddo wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i’r tenant cyn pen 28 diwrnod am ei fwriad i fyw yn yr eiddo

  • symud i mewn cyn pen 6 mis i’r dyddiad gwerthu

Hyd nes y bydd y perchennog newydd yn symud i mewn, bydd gan y tenant fwy o ddiogelwch drwy gyfraith tenantiaeth oherwydd does dim landlord preswyl yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hawliau’r tenant yn dibynnu ar bryd y symudodd i mewn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hawliau tenantiaid drwy ddarllen Rhentu preifat: cytundebau tenantiaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os byddwch yn marw, bydd y denantiaeth fel arfer yn parhau fel petaech yn breswyl o hyd, a hynny hyd nes y bydd rhywun arall yn dod yn berchennog ar yr eiddo.