Y Cynllun Rhentu Ystafell

Mae’r Cynllun Rhentu Ystafell yn eich galluogi i ennill hyd at uchafswm o £7,500 y flwyddyn yn rhydd o dreth drwy roi llety wedi’i dodrefnu yn eich cartref ar osod. Bydd y swm hwn yn cael ei haneru os ydych yn rhannu’r incwm â’ch partner neu rywun arall.

Eich penderfyniad chi yw faint o’ch cartref rydych am roi ar osod.

Sut mae’n gweithio

Mae’r eithriad rhag treth yn awtomatig os ydych yn ennill llai na £7,500.  Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi wneud dim byd.  

Os ydych yn ennill yn fwy na’r swm hwn, bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallwch wedyn fynd ati i optio i mewn i’r cynllun a hawlio’ch lwfans rhydd o dreth. Gallwch wneud hyn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallwch ddewis peidio ag optio i mewn i’r cynllun, a chadw cofnod o’ch incwm a’ch treuliau ar dudalennau ‘eiddo’ eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth fanwl ynghylch sut i lenwi’r ffurflen, a phryd mae’n synhwyrol i chi optio allan o’r cynllun, darllenwch daflen gymorth Rhentu Ystafell (yn agor tudalen Saesneg).

Cymhwystra

Gallwch ddewis optio i mewn i’r cynllun ar unrhyw adeg os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn landlord preswyl, p’un a ydych yn berchen ar eich cartref ai peidio

  • rydych yn rhedeg eiddo gwely a brecwast neu dŷ gwesteion

Ni allwch ddefnyddio’r cynllun ar gyfer cartrefi a droswyd yn fflatiau ar wahân.