Sefydlu busnes
Mae’r mwyafrif o fusnesau yn cofrestru fel unig fasnachwr neu gwmni cyfyngedig, ond mae ffyrdd eraill o sefydlu busnes.
Mae’r strwythur busnes rydych yn ei ddewis yn gallu effeithio ar y ffordd rydych yn talu treth a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol.
Gallwch symud o un strwythur busnes i un arall. Fel arfer, mae’n haws symud o fod yn unig fasnachwr i fod yn gwmni cyfyngedig.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Unig fasnachwyr
Unig fasnachwr yw’r strwythur busnes symlaf i’w sefydlu ac i gadw cofnodion ar ei gyfer.
Mae unig fasnachwyr yn gwneud yr holl benderfyniadau busnes ac yn cadw’r holl elw ar ôl talu treth.
Gallwch ddysgu rhagor am sefydlu busnes fel unig fasnachwr.
Cwmnïau cyfyngedig
Mae cwmni cyfyngedig wedi ei wahanu’n gyfreithiol oddi wrth y bobl sy’n berchen arno, ac mae’n cael ei redeg gan un neu fwy o gyfarwyddwyr. Mae llawer o gyfrifoldebau a phethau eraill i’w hystyried pan fyddwch yn rhedeg cwmni cyfyngedig.
Gallwch ddysgu rhagor am sefydlu cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Cymharu’r gwahaniaeth rhwng unig fasnachwr a chwmni cyfyngedig
Mae’r tabl hwn yn dangos y prif wahaniaethau rhwng bod yn unig fasnachwr a bod yn gwmni cyfyngedig.
Unig fasnachwr | Cwmni cyfyngedig | |
---|---|---|
Risgiau cyfreithiol neu ‘rhwymedigaeth’ | Chi yw’r person sy’n gyfrifol am holl ddyledion y busnes. Gelwir hyn yn ‘rhwymedigaeth ddiderfyn’. Os aiff rhywbeth o’i le, efallai y bydd angen yswiriant busnes ychwanegol arnoch. | Perchnogion y cwmni sy’n gyfrifol am ddyledion y busnes, hyd at werth eu buddsoddiad ariannol yn unig. Gelwir hyn yn ‘rhwymedigaeth gyfyngedig’. Gall cwmni cyfyngedig eich diogelu os bydd pethau yn mynd o’u lle, ond efallai y bydd angen yswiriant busnes ychwanegol arnoch. |
Cyllid | Rydych yn cadw’r holl elw ar ôl talu treth. | Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwyr ddilyn y rheolau wrth dynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
Enw | Gallwch ddewis enw masnachu neu ddefnyddio’ch enw eich hunan. | Mae rheolau i’w dilyn wrth ddewis enw ar gyfer busnes (yn agor tudalen Saesneg). |
Cadw cofnodion a chyfrifon | Pan fyddwch yn dechrau masnachu, mae’n rhaid i chi gadw cofnodion. | Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwyr ddilyn y rheolau wrth redeg cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg) a rhaid cyflwyno cyfrifon a Ffurflenni Treth ar gyfer y cwmni (yn agor tudalen Saesneg). |
Cofrestru | Gallwch ddechrau masnachu ar unwaith heb gofrestru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gofrestru am Hunanasesiad fel unig fasnachwr os ydych yn ennill mwy na £1,000 mewn blwyddyn dreth (o 6 Ebrill i 5 Ebrill). Gallwch ddewis cofrestru yn gynharach. | Mae’n rhaid i berchnogion y cwmni gofrestru’r cwmni (yn agor tudalen Saesneg) cyn iddynt ddechrau masnachu. Gallwch gofrestru yn gynharach os hoffech adael eich cwmni’n segur (yn agor tudalen Saesneg). |
Treth Incwm | Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar eich elw. Rydych yn talu hon drwy’ch Ffurflenni Treth Hunanasesiad. | Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r cyfarwyddwyr dalu Treth Incwm, yn dibynnu ar sut maen nhw’n tynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
Yswiriant Gwladol | Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar eich elw. Gallwch ddewis talu’r rhain er mwyn bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth. | Mae’n bosibl y bydd angen i’r cyfarwyddwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar sut maen nhw’n tynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
TAW | Mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn bodloni’r gofynion. | Mae angen i’r cwmni gofrestru ar gyfer TAW os yw’n bodloni’r gofynion. |
Treth Gorfforaeth | Nid yw unig fasnachwyr yn talu Treth Gorfforaeth. | Bydd angen i’r cwmni dalu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) ar unrhyw elw. |
Rhyddhad treth | Mae rhyddhadau treth ar gyfer unig fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg). | Mae rhyddhadau treth ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
Statws cyflogaeth | Byddwch yn cael eich ystyried yn ‘hunangyflogedig’. | Gall cyfarwyddwyr y cwmni (yn agor tudalen Saesneg) fod yn gyflogeion o ran y cwmni neu’n ddeiliaid swydd (yn agor tudalen Saesneg). |
Cyflogi cyflogeion | Gallwch gyflogi staff. | Gall y cwmni gyflogi staff. |
Ffyrdd eraill o sefydlu busnes
Gwiriwch a ddylech sefydlu busnes fel un o’r canlynol:
Cael help a chymorth
Gallwch gael help gyda sefydlu eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).