Sut mae TAW yn gweithio
Cynlluniau TAW
Mae cynlluniau TAW wedi’u cynllunio i symleiddio’r ffordd y mae rhai busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn cyfrifo ac yn rhoi cyfrif am TAW i CThEF.
Nid ydynt yn newid swm y TAW y mae busnesau yn ei godi am eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Mae’n wirfoddol i ymuno â nhw.
Cynllun Cyfradd Unffurf TAW
Mae’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW (yn agor tudalen Saesneg) yn caniatáu i chi gyfrifo’r hyn sydd arnoch i CThEF mewn TAW fel canran o’ch trosiant gros.
Dim ond os ydych yn fusnes bach gyda throsiant trethadwy blynyddol o £150,000 neu lai heb gynnwys TAW y gallwch ddefnyddio’r cynllun hwn.
Mae swm y TAW rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich diwydiant a’ch math o fusnes.
Cynlluniau TAW eraill
Mae yna gynlluniau TAW eraill efallai y bydd modd i chi ymuno â nhw yn dibynnu ar eich trosiant sy’n agored i TAW a’ch math o fusnes.
Os yw’ch trosiant sy’n agored i TAW yn £1.35 miliwn neu lai, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y canlynol:
- Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn agor tudalen Saesneg) - llenwch un Ffurflen TAW bob blwyddyn yn lle 4 ohonynt
- Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW (yn agor tudalen Saesneg) - talwch TAW i CThEF pan fydd eich cwsmer yn eich talu yn hytrach na phan fyddwch yn ei anfonebu
Os ydych yn fusnes manwerthu neu’n gwerthu nwyddau ail law, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio’r canlynol:
- cynllun gorswm TAW (yn agor tudalen Saesneg) - talwch TAW ar y gwerth rydych yn ei ychwanegu at y nwyddau rydych yn eu gwerthu yn hytrach nag ar bris gwerthu llawn pob eitem
- un allan o 3 chynllun manwerthu TAW (yn agor tudalen Saesneg) - cyfrifwch y TAW unwaith gyda phob Ffurflen TAW yn hytrach na’i chyfrifo ar gyfer pob gwerthiant a wnewch