Sut mae TAW yn gweithio
Trothwyon TAW
Mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn mynd dros y trothwy cofrestru (neu’n disgwyl gwneud hynny).
Mae yna hefyd trothwyon ar gyfer defnyddio rhai cynlluniau cyfrifyddu TAW.
Defnyddiwch eich trosiant trethadwy i gyfrifo a ydych dros drothwy. Dyma gyfanswm gwerth popeth rydych yn ei werthu neu ei gyflenwi nad yw wedi’i eithrio.
Trothwyon cofrestru
Amgylchiadau | Trothwy | Yr hyn i’w wneud |
---|---|---|
Cyfanswm trosiant trethadwy | Mwy na £90,000 | Cofrestru ar gyfer TAW |
Dod a nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE (‘caffaeliadau’) (yn agor tudalen Saesneg) | Mwy nag £90,000 | Cofrestru ar gyfer TAW |
Gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i ddefnyddwyr yn yr UE (‘gwerthu o bell’) | Cyfanswm gwerthiannau ledled yr UE dros £8,818 | Cofrestru ar gyfer TAW yng ngwledydd yr UE |
Wedi cofrestru ar gyfer TAW - trosiant trethadwy | Llai na £88,000 | Canslo cofrestriad TAW (dewisol) |
Mae yna rheolau eraill ynglŷn â rhoi gwybod am TAW os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE (yn agor tudalen Saesneg).
Trothwyon cynllun cyfrifyddu TAW
Cynllun | Trothwy i ymuno â’r cynllun | Trothwy i adael y cynllun |
---|---|---|
Cynllun Cyfradd Unffurf (yn agor tudalen Saesneg) | £150,000 neu lai | Mwy na £230,000 |
Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod (yn agor tudalen Saesneg) | £1.35 miliwn neu lai | Mwy nag £1.6 miliwn |
Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) | £1.35 miliwn neu lai | Mwy nag £1.6 miliwn |
Mae trothwyon gwahanol ar gyfer cynlluniau eraill fel y cynlluniau manwerthu TAW.
Trothwyon ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol
Gwiriwch wybodaeth hanesyddol am drothwyon TAW (yn agor tudalen Saesneg) os ydych o’r farn y dylech fod wedi’ch cofrestru mewn blynyddoedd treth blaenorol.