Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Sut i wneud cais
Cyn i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), gwiriwch eich bod yn gymwys.
Os ydych yn byw yn:
-
Gogledd Iwerddon - darganfyddwch sut i wneud cais os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
-
Yr Alban - mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn lle hynny Mae ffordd wahanol o wneud cais os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).
Dechrau eich cais dros y ffôn
Bydd angen i chi:
-
Ffonio llinell ffôn ‘Ceisiadau newydd am PIP’. Yna anfonir ffurflen atoch sydd yn gofyn am eich cyflwr.
-
Cwblhau a dychwelyd y ffurflen. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
-
Efallai y byddwch angen cael asesiad, os oes angen mwy o wybodaeth.
Os ydych angen rywun i’ch helpu
Gallwch:
- ofyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch galwad – ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ffôn testun
- gofyn i rywun arall ffonio ar eich rhan – byddwch angen bod gyda hwy pan fyddant yn ffonio
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen:
- eich manylion cyswllt, er enghraifft rhif ffôn
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol – os oes gennych un (mae’r rhif ar lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau)
- rhif eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a’r cod didoli
- enw, rhif ffôn a chyfeiriad eich meddyg neu’ch gweithiwr iechyd
-
dyddiadau a chyfeiriadau am unrhyw gyfnod rydych wedi treulio mewn cartref gofal neu ysbyty
- dyddiadau am unrhyw gyfnod rydych wedi treulio dramor am fwy na 4 wythnos ar y tro, a’r gwledydd y gwnaethoch ymweld â hwy
Llinell ffôn ceisiadau newydd am PIP
Ffôn: 0800 917 2222
Ffôn testun: 0800 917 7777
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 917 2222
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ffonio o dramor: +44 191 218 7766
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Dechrau eich cais drwy’r post
Gallwch gael ffurflen drwy’r post yn lle hynny, ond mae’n cymryd mwy o amser i gael penderfyniad.
Anfonwch lythyr i’r cyfeiriad freepost hwn:
Freepost DWP PIP 1
Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ar yr amlen heblaw am y cyfeiriad freepost. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.
Anfonir ffurflen atoch yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol, megis eich cyfeiriad a’ch oed.Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd.
Yna anfonir ffurflen atoch sy’n gofyn am eich anabledd neu gyflwr iechyd.
Cwblhau a dychwelyd y ffurflen am eich cyflwr
Os byddwch yn gwneud cais dros y ffôn neu drwy’r post, byddwch fel arfer yn cael ffurflen o’r enw ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ o fewn 2 wythnos.
Cwblhewch y ffurflen drwy ddefnyddio’r nodiadau ynghlwm a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Dylech gynnwys dogfennau ategol os oes gennych rhai – er enghraifft, rhestrau presgripsiwn, cynlluniau gofal, neu wybodaeth gan eich meddyg neu eraill sy’n ymwneud â’ch gofal.
Mae gennych 1 mis i’w dychwelyd. Cysylltwch â llinell ymholiadau PIP os oes angen mwy o amser arnoch neu os oes gennych gwestiynau.
Gallwch ddarllen cymorth Cyngor ar Bopeth Help i lenwi’r ffurflen.
Edrych i weld os gallwch wneud cais ar-lein
Gallwch ond gwneud cais am PIP ar-lein mewn rhai ardaloedd. Byddwch angen gwirio eich cod post pan fyddwch yn dechrau eich cais.
I ddechrau eich cais ar-lein byddwch angen eich:
- rhif Yswiriant Gwladol
- cyfeiriad e-bost
- ffôn symudol
Gwiriwch a allwch wneud cais am PIP ar-lein
Os ydych eisoes wedi cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif PIP.