Ar ôl i chi wneud cais

Os ydych angen cael asesiad

Byddwch yn cael eich gwahodd i asesiad gydag ymarferwr iechyd proffesiynol os oes angen mwy o wybodaeth. Byddant yn gofyn:

  • am eich gallu i wneud gweithgareddau a sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich bywyd bob dydd a symudedd
  • am unrhyw driniaethau rydych wedi eu cael neu yn mynd i’w cael

Efallai y byddant yn gofyn i chi wneud symudiadau syml i ddangos sut ydych yn rheoli rhai gweithgareddau.

Gall yr asesiad fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo, Mae fel arfer yn cymryd 1 awr.

Gallwch ddarllen cymorth Cyngor ar Bopeth am baratoi ar gyfer asesiad.

Cael penderfyniad

Byddwch yn derbyn llythyr sy’n eich hysbysu os byddwch yn cael PIP a dyddiad eich taliad cyntaf.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.