Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Trosolwg
Fel arfer, mae’r dyddiadau cau ar gyfer talu’ch bil treth fel a ganlyn:
- 31 Ionawr – ar gyfer treth sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol (a elwir yn daliad mantoli) a’ch taliad ar gyfrif cyntaf
- 31 Gorffennaf – ar gyfer eich ail daliad ar gyfrif
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu’ch bil treth
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio gwasanaeth bancio ar-lein eich banc, neu ap eich banc.
Gallwch dalu’r swm sydd arnoch mewn rhandaliadau cyn y dyddiad dyledus, os yw’n well gennych. Gallwch wneud hyn drwy’r dulliau canlynol:
- trefnu taliadau wythnosol neu fisol tuag at eich bil
- gwneud taliadau untro drwy’ch cyfrif banc ar-lein, gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach), trefnu taliadau unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol neu drwy bostio sieciau
Gallwch gael help os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.
Dulliau o dalu
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Bydd llog yn cael ei godi arnoch, ac efallai y bydd cosb yn cael ei chodi arnoch os yw’ch taliad yn hwyr.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Gallwch dalu drwy gyfrwng y dulliau canlynol:
- drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach)
- drwy CHAPS
- â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
- yn eich banc neu gymdeithas adeiladu
Mae’n rhaid i chi gael slip talu oddi wrth CThEF er mwyn talu mewn banc neu gymdeithas adeiladu.
3 diwrnod gwaith
Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:
- Bacs
- Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un gyda CThEF yn y gorffennol)
- drwy siec yn y post
5 diwrnod gwaith
Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un gyda CThEF yn y gorffennol)
Os yw’r dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, sicrhewch fod eich taliad yn cyrraedd CThEF ar y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad hwnnw (oni bai eich bod yn talu drwy gyfrwng Taliadau Cyflymach neu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd).
Problemau â gwasanaethau talu
Gall gwasanaethau talu ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Edrychwch i weld a oes problemau ar hyn o bryd, neu adegau pan na fyddant ar gael (yn agor tudalen Saesneg).