Treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Mae eich cyfraniadau pensiwn preifat yn rhydd o dreth hyd at derfynau penodol.

Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn preifat, er enghraifft:

  • pensiynau’r gweithle
  • pensiynau personol a phensiynau rhanddeiliaid
  • cynlluniau pensiwn tramor sy’n gymhwysol i gael rhyddhad treth yn y DU - gofynnwch i’ch darparwr pensiwn a yw’n ‘cynllun pensiwn tramor cymhwysol’

Mae’n rhaid bod cynlluniau pensiwn fod wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) i fod yn gymhwysol i gael rhyddhad treth. Gwiriwch â’ch darparwr pensiwn os ydych chi’n ansicr a yw’ch cynllun chi wedi’i gofrestru neu beidio.

Rydych yn talu treth pan fyddwch yn tynnu arian o bensiwn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Terfynau eich cyfraniadau rhydd o dreth

Fel arfer, byddwch yn talu treth os yw’r cynilion yn eich cronfa bensiwn yn mynd yn uwch na’r canlynol:

  • 100% o’ch enillion mewn blwyddyn - dyma derfyn y rhyddhad treth a gewch                                                                                   
  • £60,000 y flwyddyn - gwiriwch eich ‘lwfans blynyddol’

Byddwch hefyd yn talu treth ar eich cyfraniadau:

  • os nad yw’ch darparwr pensiwn wedi’i gofrestru ar gyfer rhyddhad treth gyda CThEF
  • os nad yw’ch darparwr pensiwn yn buddsoddi’ch cronfa bensiwn yn ôl rheolau CThEF