Treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat

Printable version

1. Trosolwg

Mae eich cyfraniadau pensiwn preifat yn rhydd o dreth hyd at derfynau penodol.

Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn preifat, er enghraifft:

  • pensiynau’r gweithle
  • pensiynau personol a phensiynau rhanddeiliaid
  • cynlluniau pensiwn tramor sy’n gymhwysol i gael rhyddhad treth yn y DU - gofynnwch i’ch darparwr pensiwn a yw’n ‘cynllun pensiwn tramor cymhwysol’

Mae’n rhaid bod cynlluniau pensiwn fod wedi’u cofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) i fod yn gymhwysol i gael rhyddhad treth. Gwiriwch â’ch darparwr pensiwn os ydych chi’n ansicr a yw’ch cynllun chi wedi’i gofrestru neu beidio.

Rydych yn talu treth pan fyddwch yn tynnu arian o bensiwn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Terfynau eich cyfraniadau rhydd o dreth

Fel arfer, byddwch yn talu treth os yw’r cynilion yn eich cronfa bensiwn yn mynd yn uwch na’r canlynol:

  • 100% o’ch enillion mewn blwyddyn - dyma derfyn y rhyddhad treth a gewch                                                                                   
  • £60,000 y flwyddyn - gwiriwch eich ‘lwfans blynyddol’

Byddwch hefyd yn talu treth ar eich cyfraniadau:

  • os nad yw’ch darparwr pensiwn wedi’i gofrestru ar gyfer rhyddhad treth gyda CThEF
  • os nad yw’ch darparwr pensiwn yn buddsoddi’ch cronfa bensiwn yn ôl rheolau CThEF

2. Rhyddhad treth

Gallwch gael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn preifat gwerth hyd at 100% o’ch enillion blynyddol.

Byddwch naill ai’n cael y rhyddhad treth yn awtomatig neu bydd angen i chi hawlio’r rhyddhad eich hun. Mae’n dibynnu ar y math o gynllun pensiwn rydych yn rhan ohono, a’r gyfradd Treth Incwm rydych yn ei thalu.

Mae dau fath o gynllun pensiwn lle byddwch yn cael rhyddhad yn awtomatig. Naill ai:

  • bod eich cyflogwr yn tynnu cyfraniadau pensiwn gweithle o’ch cyflog cyn didynnu Treth Incwm
  • bod eich darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20% a’i fod yn ychwanegu hwn at eich cronfa bensiwn (‘rhyddhad wrth y ffynhonnell’)

Os yw’ch cyfradd Treth Incwm yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) yn 19%, bydd eich darparwr pensiwn yn hawlio gostyngiad treth i chi ar gyfradd o 20%. Nid oes angen i chi dalu’r gwahaniaeth.

Mae rhyddhad treth yn y DU hefyd ar gael ar gyfraniadau a wnaed at fathau penodol o gynlluniau pensiwn tramor (yn agor tudalen Saesneg).

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr nad ydych yn cael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn sydd fwy na 100% o’ch enillion blynyddol. Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ofyn i chi dalu unrhyw beth dros y terfyn hwn yn ôl.

Rhyddhad wrth y ffynhonnell

Cewch ryddhad wrth y ffynhonnell mewn pob un pensiwn personol a phensiwn rhanddeiliaid, yn ogystal â rhai pensiynau gweithle.

I gael rhyddhad wrth y ffynhonnell

Cyn talu i mewn i gynllun, mae angen i chi gytuno i amodau penodol ynghylch eich cyfraniadau (‘gwneud datganiad’). Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r rhain.

Bydd hefyd angen i chi roi’r canlynol i’ch darparwr pensiwn:

  • eich enw llawn a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich statws cyflogaeth - neu roi gwybod iddo os ydych wedi ymddeol, yn fyfyriwr llawn amser, yn ofalwr neu o dan 16 oed

Efallai y bydd eich cyflogwr yn gwneud hyn ar eich rhan os ydych wedi’ch cofrestru’n awtomatig i’w gynllun pensiwn.

Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi os dyma’r achos, a gofyn i chi gadarnhau bod eich manylion yn gywir. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod.

Hawlio rhyddhad treth eich hun

Mewn rhai achosion, bydd angen i chi hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn eich hun. Bydd angen i chi hawlio:

  • os ydych yn talu Treth Incwm ar gyfradd sydd uwch nag 20%, ac mae’ch darparwr pensiwn yn hawlio’r 20% cyntaf ar eich rhan (rhyddhad wrth y ffynhonnell)
  • os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu ar gyfer rhyddhad treth awtomatig
  • os yw rhywun arall yn talu i mewn i’ch pensiwn

Os ydych yn talu swm sy’n fwy na £10,000 i mewn, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.

Os ydych yn talu Treth Incwm ar gyfradd uwch nag 20% (Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)

Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad am arian y byddwch yn ei roi yn eich pensiwn preifat. Gall y rhyddhad hwn fod yn un o’r canlynol:

  • 20% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 40% arno
  • 25% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 45% arno

Os nad ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.

Enghraifft

Rydych yn ennill £60,000 yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025 ac yn talu treth o 40% ar £10,000. Rydych yn rhoi £15,000 mewn pensiwn preifat. Rydych yn cael rhyddhad treth wrth y ffynhonnell yn awtomatig ar y £15,000 cyfan.

Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol o 20% ar £10,000 (yr un swm a wnaethoch dalu treth ar y gyfradd uwch arno) drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Ni chewch ryddhad ychwanegol ar y £5,000 sy’n weddill yr ydych wedi rhoi yn eich pensiwn.

Os ydych yn talu Treth Incwm sydd uwch nag 20% (Yr Alban)

Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad am arian y byddwch yn ei roi yn eich pensiwn preifat. Gall y rhyddhad hwn fod yn un o’r canlynol:

  • 1% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 21% arno
  • 22% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 42% arno
  • 25% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 45% arno
  • 28% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 48% arno

Os nad ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.

Os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu i gael rhyddhad treth awtomatig

Hawliwch ryddhad treth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu i gael rhyddhad treth awtomatig.

Os nad ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dysgwch sut i hawlio gostyngiad treth.

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i gofrestru gyda CThEF.

Os yw rhywun arall yn talu i mewn i’ch pensiwn

Pan fydd rhywun arall (er enghraifft, eich partner) yn talu i mewn i’ch pensiwn, cewch ryddhad treth ar 20% yn awtomatig os yw’ch darparwr pensiwn yn hawlio’r rhyddhad ar eich rhan (‘rhyddhad wrth y ffynhonnell’).

Os ydych mewn pensiwn gweithle, dysgwch sut i hawlio rhyddhad treth ar y cyfraniadau hynny.

Cyflwyno neu gynyddu hawliad sydd dros £10,000

Cael gwybod sut i hawlio rhyddhad treth os ydych yn gwneud y canlynol:

  • gwneud hawliad newydd ar gyfer cyfraniadau pensiwn dros £10,000
  • cynyddu’ch hawliad presennol gan fwy na 10% (os yw’r hawliad presennol eisoes dros £10,000)

Os ydych yn cynyddu’ch hawliad presennol gan lai na 10%, gallwch ffonio CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn talu Treth Incwm

Cewch ryddhad treth ar 20% yn awtomatig o hyd ar y £2,880 cyntaf y byddwch yn ei dalu i mewn i bensiwn bob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol i chi:

  • nid ydych yn talu Treth Incwm oherwydd eich bod ar incwm isel
  • mae’ch darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth ar eich rhan ar gyfradd o 20% (rhyddhad wrth y ffynhonnell)

Polisïau yswiriant bywyd

Ni allwch gael rhyddhad treth os ydych yn defnyddio’ch cyfraniadau pensiwn i dalu am bolisi aswiriant cyfnod personol, oni bai ei fod yn bolisi wedi’i ddiogelu.

Aswiriant cyfnod personol yw polisi yswiriant bywyd sydd naill ai:

  • yn dod i ben pan fydd y person cyntaf i gael ei yswirio’n marw
  • yn yswirio pobl sydd i gyd o’r un teulu

3. Lwfans blynyddol

Eich lwfans blynyddol yw’r uchafswm y gallwch ei gynilo yn eich cronfeydd pensiwn mewn blwyddyn dreth (sef 6 Ebrill i 5 Ebrill), cyn i chi orfod talu treth.

Dim ond os ewch chi dros y lwfans blynyddol y bydd angen i chi dalu treth. £60,000 yw’r lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth hon.

Beth sy’n cyfrif tuag at y lwfans blynyddol

Mae’ch lwfans blynyddol yn berthnasol i’ch holl bensiynau preifat (yn agor tudalen Saesneg), os oes gennych fwy nag un. Mae hyn yn cynnwys:

  • y cyfanswm a dalwyd i gynllun cyfraniadau diffiniedig mewn blwyddyn dreth gennych chi neu gan rywun arall (er enghraifft, eich cyflogwr)
  • unrhyw gynnydd mewn cynllun budd-daliadau diffiniedig mewn blwyddyn dreth

Os byddwch yn defnyddio’ch holl lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol

Gallai fod modd i chi gario unrhyw lwfans blynyddol drosodd (yn agor tudalen Saesneg) nad oeddech wedi’i ddefnyddio o’r 3 blwyddyn dreth flaenorol.

Pan fydd eich lwfans blynyddol yn is na £60,000

Gallai’ch lwfans blynyddol fod yn is os yw’r un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych wedi cyrchu eich cronfa bensiwn yn hyblyg
  • mae gennych incwm uchel

Os ydych yn cyrchu eich pensiwn yn hyblyg

Gallai’ch lwfans blynyddol fod yn is os ydych yn cyrchu’ch pensiwn yn hyblyg. Er enghraifft, gall hyn gynnwys y canlynol:

  • arian neu flwydd-dal byr dymor o arian a gyrchir yn hyblyg o gronfa
  • arian parod o gronfa bensiwn (‘arian heb ei grisialu ar ffurf cyfandaliad pensiwn’)

Gelwir y lwfans is yn ‘lwfans blynyddol pryniannau arian’ (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych incwm uchel

Bydd gennych lwfans blynyddol gostyngedig (‘wedi’i feinhau’) yn y flwyddyn dreth bresennol os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • bod eich ‘incwm trothwy’ dros £200,000 
  • bod eich ‘incwm wedi’i addasu’ dros £260,000

Mae terfynau’r incwm trothwy a’r incwm wedi’i addasu’n wahanol ar gyfer blynyddoedd treth cynharach (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfrifo’ch lwfans blynyddol gostyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Os ewch chi dros y lwfans blynyddol

Cewch ddatganiad gan eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi os ewch chi dros y lwfans blynyddol yn ei gynllun. Os ydych yn rhan o fwy nag un cynllun pensiwn, gofynnwch i bob darparwr pensiwn am ddatganiad.

Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell i gyfrifo gan faint yr ydych wedi mynd dros y lwfans.

Os ewch chi dros eich lwfans blynyddol, mae’n rhaid i naill ai chi neu’ch darparwr pensiwn dalu’r dreth (yn agor tudalen Saesneg).

Llenwch yr adran ‘Taliadau treth ar gynilion pensiwn’ y Ffurflen Dreth Hunanasesiad i roi gwybod i CThEF am y dreth, hyd yn oed os bydd eich darparwr pensiwn yn talu’r dreth gyfan neu beth ohoni. Bydd angen ffurflen SA101 arnoch os ydych yn defnyddio ffurflen bapur.

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn o hyd ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych dros y lwfans blynyddol.

Nid yw CThEF yn codi treth ar unrhyw un am fynd dros ei lwfans blynyddol mewn blwyddyn dreth:

  • os oedden nhw wedi ymddeol neu gymryd eu cronfa bensiwn i gyd oherwydd salwch difrifol
  • os oedden nhw wedi marw 

4. Lwfans cyfandaliad

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275. Gelwir hyn yn lwfans cyfandaliad (yn agor tudalen Saesneg).

Efallai y bydd modd i chi neu’ch buddiolwyr gymryd cyfandaliad rhydd o dreth o hyd at £1,073,100 mewn achosion penodol.

Er enghraifft, os byddwch yn cymryd cyfandaliad oherwydd salwch difrifol neu fod eich buddiolwyr yn cael eu talu cyfandaliadau buddiant marwolaeth penodol. Gelwir hyn yn lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os byddwch yn cymryd cyfandaliad sy’n mynd dros eich lwfansau, bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar y swm ychwanegol.

Bydd y darparwr pensiwn yn tynnu’r tâl cyn i chi gael eich taliad.

Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu (yn agor tudalen Saesneg), efallai y bydd hyn yn cynyddu swm y cyfandaliadau rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.

Gwirio faint o lwfans cyfandaliad rydych wedi’i ddefnyddio

Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn faint rydych wedi’i ddefnyddio o’r canlynol:

  • eich lwfans cyfandaliad
  • eich lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth

Mae’n rhaid i chi adio faint o’ch lwfansau rydych wedi’u defnyddio ym mhob un o’r cynlluniau pensiwn rydych yn rhan ohonynt at ei gilydd.

Beth sy’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad

Mae’n dibynnu ar y math o gyfandaliad a gymerwyd.

Mae’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad os byddwch yn cymryd unrhyw un o’r canlynol:

  • cyfandaliad cychwyn pensiwn
  • arian heb ei grisialu ar ffurf cyfandaliad pensiwn (y rhan rydd o dreth o 25%)
  • cyfandaliad sy’n sefyll ar ei ben ei hun

Mae’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth os byddwch yn cymryd y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cyfandaliad salwch difrifol
  • cyfandaliadau buddiant marwolaeth penodol a delir i’ch buddiolwyr

Bydd unrhyw gyfandaliad sy’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad hefyd yn cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth.

Diogelu’ch lwfans oes

Cafodd lwfans oes ei ddiddymu ar 6 Ebrill 2024. Os oedd gennych gynilion o bensiwn cyn mis Ebrill 2016, efallai y bydd modd i chi wneud cais i ddiogelu’ch lwfans oes o’r adeg pan gafodd ei ostwng ym mis Ebrill 2016.

Mae’r diogelwch hwn hefyd yn berthnasol i’ch lwfans cyfandaliad a’ch lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth.

Os oes gennych yr hawl i gymryd buddiannau’ch pensiwn cyn eich bod yn 50 oed

Efallai y bydd gennych lwfans cyfandaliad neu lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth gostyngedig os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • roedd gennych swydd gymwys (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft, chwaraeon proffesiynol, dawnsio a gwaith fel model) 
  • roeddech wedi ymuno â’ch cynllun pensiwn cyn 2006
  • rydych yn cymryd cyfandaliad cyn i chi droi’n 55 mlwydd oed

Nid yw’ch lwfans cyfandaliad na’ch lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth wedi’u gostwng os ydych yn rhan o gynllun pensiwn ar gyfer gwasanaethau mewn lifrai (yn agor tudalen Saesneg) - er enghraifft, y lluoedd arfog, yr heddlu a’r gwasanaethau tân