Treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat
Lwfans blynyddol
Eich lwfans blynyddol yw’r [uchafswm y gallwch ei gynilo yn eich cronfeydd pensiwn mewn blwyddyn dreth (sef 6 Ebrill i 5 Ebrill), cyn i chi orfod talu treth.
Dim ond os ewch chi dros y lwfans blynyddol y bydd angen i chi dalu treth. £60,000 yw’r lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth hon.
Beth sy’n cyfrif tuag at y lwfans blynyddol
Mae’ch lwfans blynyddol yn berthnasol i’ch holl bensiynau preifat (yn agor tudalen Saesneg), os oes gennych fwy nag un. Mae hyn yn cynnwys:
- y cyfanswm a dalwyd i gynllun cyfraniadau diffiniedig mewn blwyddyn dreth gennych chi neu gan rywun arall (er enghraifft, eich cyflogwr)
- unrhyw gynnydd mewn cynllun budd-daliadau diffiniedig mewn blwyddyn dreth
Os byddwch yn defnyddio’ch holl lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
Gallai fod modd i chi gario unrhyw lwfans blynyddol drosodd (yn agor tudalen Saesneg) nad oeddech wedi’i ddefnyddio o’r 3 blwyddyn dreth flaenorol.
Pan fydd eich lwfans blynyddol yn is na £60,000
Gallai’ch lwfans blynyddol fod yn is os yw’r un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych wedi cyrchu eich cronfa bensiwn yn hyblyg
- mae gennych incwm uchel
Os ydych yn cyrchu eich pensiwn yn hyblyg
Gallai’ch lwfans blynyddol fod yn is os ydych yn cyrchu’ch pensiwn yn hyblyg. Er enghraifft, gall hyn gynnwys y canlynol:
- arian neu flwydd-dal byr dymor o arian a gyrchir yn hyblyg o gronfa
- arian parod o gronfa bensiwn (‘arian heb ei grisialu ar ffurf cyfandaliad pensiwn’)
Gelwir y lwfans is yn ‘lwfans blynyddol pryniannau arian’ (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes gennych incwm uchel
Bydd gennych lwfans blynyddol gostyngedig (‘wedi’i feinhau’) yn y flwyddyn dreth bresennol os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- bod eich ‘incwm trothwy’ dros £200,000
- bod eich ‘incwm wedi’i addasu’ dros £260,000
Mae terfynau’r incwm trothwy a’r incwm wedi’i addasu’n wahanol ar gyfer blynyddoedd treth cynharach (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfrifo’ch lwfans blynyddol gostyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Os ewch chi dros y lwfans blynyddol
Cewch ddatganiad gan eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi os ewch chi dros y lwfans blynyddol yn ei gynllun. Os ydych yn rhan o fwy nag un cynllun pensiwn, gofynnwch i bob darparwr pensiwn am ddatganiad.
Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell i gyfrifo gan faint yr ydych wedi mynd dros y lwfans.
Os ewch chi dros eich lwfans blynyddol, mae’n rhaid i naill ai chi neu’ch darparwr pensiwn dalu’r dreth (yn agor tudalen Saesneg).
Llenwch yr adran ‘Taliadau treth ar gynilion pensiwn’ y Ffurflen Dreth Hunanasesiad i roi gwybod i CThEF am y dreth, hyd yn oed os bydd eich darparwr pensiwn yn talu’r dreth gyfan neu beth ohoni. Bydd angen ffurflen SA101 arnoch os ydych yn defnyddio ffurflen bapur.
Gallwch hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn o hyd ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych dros y lwfans blynyddol.
Nid yw CThEF yn codi treth ar unrhyw un am fynd dros ei lwfans blynyddol mewn blwyddyn dreth:
- os oedden nhw wedi ymddeol neu gymryd eu cronfa bensiwn i gyd oherwydd salwch difrifol
- os oedden nhw wedi marw