Treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat

Sgipio cynnwys

Lwfans cyfandaliad

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275. Gelwir hyn yn lwfans cyfandaliad (yn agor tudalen Saesneg).

Efallai y bydd modd i chi neu’ch buddiolwyr gymryd cyfandaliad rhydd o dreth o hyd at £1,073,100 mewn achosion penodol.

Er enghraifft, os byddwch yn cymryd cyfandaliad oherwydd salwch difrifol neu fod eich buddiolwyr yn cael eu talu cyfandaliadau buddiant marwolaeth penodol. Gelwir hyn yn lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os byddwch yn cymryd cyfandaliad sy’n mynd dros eich lwfansau, bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar y swm ychwanegol.

Bydd y darparwr pensiwn yn tynnu’r tâl cyn i chi gael eich taliad.

Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu (yn agor tudalen Saesneg), efallai y bydd hyn yn cynyddu swm y cyfandaliadau rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.

Gwirio faint o lwfans cyfandaliad rydych wedi’i ddefnyddio

Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn faint rydych wedi’i ddefnyddio o’r canlynol:

  • eich lwfans cyfandaliad
  • eich lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth

Mae’n rhaid i chi adio faint o’ch lwfansau rydych wedi’u defnyddio ym mhob un o’r cynlluniau pensiwn rydych yn rhan ohonynt at ei gilydd.

Beth sy’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad

Mae’n dibynnu ar y math o gyfandaliad a gymerwyd.

Mae’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad os byddwch yn cymryd unrhyw un o’r canlynol:

  • cyfandaliad cychwyn pensiwn
  • arian heb ei grisialu ar ffurf cyfandaliad pensiwn (y rhan rydd o dreth o 25%)
  • cyfandaliad sy’n sefyll ar ei ben ei hun

Mae’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth os byddwch yn cymryd y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cyfandaliad salwch difrifol
  • cyfandaliadau buddiant marwolaeth penodol a delir i’ch buddiolwyr

Bydd unrhyw gyfandaliad sy’n cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad hefyd yn cyfrif tuag at eich lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth.

Diogelu’ch lwfans oes

Cafodd lwfans oes ei ddiddymu ar 6 Ebrill 2024. Os oedd gennych gynilion o bensiwn cyn mis Ebrill 2016, efallai y bydd modd i chi wneud cais i ddiogelu’ch lwfans oes o’r adeg pan gafodd ei ostwng ym mis Ebrill 2016.

Mae’r diogelwch hwn hefyd yn berthnasol i’ch lwfans cyfandaliad a’ch lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth.

Os oes gennych yr hawl i gymryd buddiannau’ch pensiwn cyn eich bod yn 50 oed

Efallai y bydd gennych lwfans cyfandaliad neu lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth gostyngedig os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • roedd gennych swydd gymwys (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft, chwaraeon proffesiynol, dawnsio a gwaith fel model) 
  • roeddech wedi ymuno â’ch cynllun pensiwn cyn 2006
  • rydych yn cymryd cyfandaliad cyn i chi droi’n 55 mlwydd oed

Nid yw’ch lwfans cyfandaliad na’ch lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth wedi’u gostwng os ydych yn rhan o gynllun pensiwn ar gyfer gwasanaethau mewn lifrai (yn agor tudalen Saesneg) - er enghraifft, y lluoedd arfog, yr heddlu a’r gwasanaethau tân